Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 17 Ionawr 2018.
Mae amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn yn dangos yn glir fod yr amcanestyniadau a ddefnyddiwyd yn sail i lawer o'r cynlluniau datblygu lleol hyn yn amlwg yn anghywir. Yn achos Wrecsam, roedd yr amcanestyniad poblogaeth yn ôl yn 2014 yn dangos cynnydd o oddeutu 1,200 o bobl yn y boblogaeth erbyn canol 2016. Bellach, wrth gwrs, gwelwn mai cynnydd o bedwar a gafwyd mewn gwirionedd—nid 4 y cant; pedwar o bobl. Nawr, yn amlwg, mae'r sail honno'n sylfaenol ddiffygiol o ran y cynlluniau datblygu lleol sydd gennym. Maent yn gwbl anghywir, ond maent yn parhau i fod yn sail ar gyfer y cynlluniau datblygu lleol sydd wedi cael eu hadolygu neu sydd ar waith ar hyn o bryd. Felly, a wnewch chi gytuno bod y gwendid cynhenid hwn yn y cynlluniau datblygu lleol yn arwain at oramcangyfrif lefelau poblogaeth, sydd yn ei dro yn golygu y bydd mwy o ddatblygiadau, a datblygiadau diangen i raddau helaeth, o ran ardaloedd maes glas, mewn lleoedd megis Llai, er enghraifft, lle rydych chi eich hun wedi gwrthwynebu cynlluniau o'r fath yn y gorffennol?