Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rwy'n gwbl ymrwymedig i ddull datblygu a arweinir gan gynllun ledled Cymru. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod awdurdodau lleol yn cyflwyno eu cynlluniau datblygu lleol. Mae'n anffodus—ac rydych yn sôn am fy etholaeth i, sef Wrecsam, yn benodol—mae'n anffodus iawn nad oes ganddynt gynllun datblygu lleol ar waith. Ni fuaswn yn dweud eu bod yn ddiffygiol. Credaf mai'r anhawster mewn perthynas â chynlluniau datblygu lleol yw bod yn rhaid iddynt gael eu hadolygu'n gyson, ac rwy'n credu, yn y dyfodol, fod angen i ni symud oddi wrth gynlluniau datblygu lleol a chael mwy o gynlluniau datblygu strategol. Yn sicr, dyna'r gwaith sy'n mynd rhagddo. Mae fy mhrif swyddog cynllunio yn mynd o amgylch Cymru ar hyn o bryd ac yn cyfarfod â phob awdurdod lleol, ond credaf fod angen i ni gael y cynlluniau hynny ar waith er mwyn gwneud yn siŵr fod penderfyniadau'n cael eu gwneud, ond wrth gwrs mae angen i'r wybodaeth fod yn gywir, fel bod y penderfyniadau a wneir wedyn mor briodol â phosibl.