Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:15 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yn hollol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £200,000 i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i ariannu gwaith ychwanegol ar droseddau gwastraff. Mae'r cyllid wedi talu am swyddog o'r gwasanaethau tân ac achub i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu a sefydlu canllawiau ar atal tân mewn safleoedd gwastraff. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru bwerau ym mis Hydref 2015 i'w gwneud yn haws i'r rheoleiddiwr atal trwyddedau dros dro a chymryd camau i gael gwared ar unrhyw risgiau. Byddwn yn cyflwyno offeryn arall ar droseddau gwastraff tuag at ddiwedd y mis hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol ei graffu, er mwyn darparu'r pwerau a fydd yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gloi giatiau safleoedd er mwyn atal mynediad a rhwystro gwastraff rhag cyrraedd safle, a bydd ail bŵer yn targedu pobl sy'n cadw neu'n caniatáu i wastraff gael ei gadw ar dir yn anghyfreithlon ac yn eu gwneud yn gyfrifol.