1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
9. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y tanau mewn safleoedd gwaredu gwastraff yng Nghymru? OAQ51548
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu pwerau gorfodi newydd i Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â safleoedd anghyfreithlon a safleoedd a weithredir yn wael. Rydym hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer secondio staff gwasanaethau tân ac achub i Cyfoeth Naturiol Cymru er mwyn datblygu cynlluniau atal tân a lliniaru a helpu i hyfforddi gweithredwyr yn y diwydiant gwastraff.
Weinidog, mae'n debygol eich bod wedi clywed yr adroddiad ar BBC Radio Wales a nododd fod diffoddwyr tân wedi cael eu galw i ymdrin â 68 o'r 123 o danau gwastraff a gofnodwyd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a threuliwyd tua 22,000 o oriau gwaith ar ddiffodd y fflamau, ar gost o tua £1.8 miliwn. Dywedodd Mark Andrews, sy'n arwain ar y materion hyn yng Nghymru a Lloegr ar ran Cyngor y Penaethiaid Tân Cenedlaethol, fod cyfraddau uwch o ailgylchu, rhywbeth rydym ei eisiau wrth gwrs, yn golygu mwy o wastraff a mwy o risg tân, a galwodd ar reoleiddwyr i fabwysiadu safbwynt llawer mwy cadarn. Onid yw hynny'n ganolog i'r mater hwn, ein bod angen rheoleiddio effeithiol yma?
Yn hollol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £200,000 i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i ariannu gwaith ychwanegol ar droseddau gwastraff. Mae'r cyllid wedi talu am swyddog o'r gwasanaethau tân ac achub i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar ddatblygu a sefydlu canllawiau ar atal tân mewn safleoedd gwastraff. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru bwerau ym mis Hydref 2015 i'w gwneud yn haws i'r rheoleiddiwr atal trwyddedau dros dro a chymryd camau i gael gwared ar unrhyw risgiau. Byddwn yn cyflwyno offeryn arall ar droseddau gwastraff tuag at ddiwedd y mis hwn i'r Cynulliad Cenedlaethol ei graffu, er mwyn darparu'r pwerau a fydd yn galluogi Cyfoeth Naturiol Cymru i gloi giatiau safleoedd er mwyn atal mynediad a rhwystro gwastraff rhag cyrraedd safle, a bydd ail bŵer yn targedu pobl sy'n cadw neu'n caniatáu i wastraff gael ei gadw ar dir yn anghyfreithlon ac yn eu gwneud yn gyfrifol.
Diolch i'r Gweinidog a'r Ysgrifennydd Cabinet.