Diwygio Lles yn Nhorfaen

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:21 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rebecca Evans Rebecca Evans Labour 2:21, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr y dylai gwaith dalu, a dyna pam fod gennym bryderon mor ddifrifol ynghylch credyd cynhwysol, sydd mewn gwirionedd yn golygu nad yw gwaith yn talu mewn llawer o achosion. Bydd pobl sydd mewn gwaith, megis teuluoedd unig rieni, a theuluoedd gyda phobl anabl sydd mewn gwaith, bydd rhai ohonynt mewn gwirionedd yn gweld eu hincwm yn gostwng o ganlyniad i effaith credyd cynhwysol. Mae'n hollbwysig fod gwaith yn talu, ond mae'n rhaid iddo dalu'n dda yn ogystal, a dyna pam rydym yn gwneud cymaint o waith ar fater y cyflog byw. Ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion megis contractau dim oriau. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i wneud hynny yn y meysydd lle mae gennym bŵer i wneud hynny—er enghraifft, ym maes gofal cymdeithasol. Rydym yn awyddus i sicrhau nad yw contractau dim oriau yn cael eu hystyried bellach yn ffordd dderbyniol o gyflogi pobl.