2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2018.
1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ51574
Diolch. Mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod newidiadau lles 2010-11 a 2015-16 wedi bod yn ergyd galed i Gymoedd de Cymru. Mae hyn yn cynnwys Torfaen, sef y seithfed ardal awdurdod lleol a effeithiwyd waethaf yng Nghymru, gyda cholledion incwm cyfartalog yn uwch na'r rhai ar gyfer Cymru yn gyffredinol. O ran y newidiadau lles a gyflwynwyd ers 2015-16, a'r rhai sy'n parhau i gael eu cyflwyno dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, mae dadansoddiad gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dangos y bydd Torfaen yn cael ergyd galed eto.
Diolch. Ar ôl y chwe mis cyntaf o wasanaeth llawn y credyd cynhwysol yn Nhorfaen, mae pennaeth refeniw a budd-daliadau'r cyngor, Richard Davies, wedi dweud ei fod yn teimlo bod ethos ei rôl wedi newid o dalu budd-daliadau a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo i sicrhau bod gan bobl fwyd ar y bwrdd. Yn anffodus, nid oes unrhyw arwydd o welliant, a'r wythnos diwethaf, roedd cadeirydd Tai Cymunedol Bron Afon yn darogan y bydd nifer y tenantiaid sydd wedi cael eu niweidio gan gredyd cynhwysol yn codi eto, ac mae lefel yr ôl-ddyledion rhent a achosir eisoes yn peri pryder mawr. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynorthwyo trigolion mewn cymunedau sy'n ei chael hi'n anodd o dan y credyd cynhwysol, ac yn benodol, pa gamau y gallwn eu cymryd i sicrhau nad yw'r problemau gydag ôl-ddyledion rhent yn arwain at gynnydd yn nifer y rhai sy'n cael eu troi allan a'u gwneud yn ddigartref?
Diolch yn fawr iawn i chi am y cwestiwn hwnnw, a rhannaf eich pryder dwfn ynglŷn â'r effaith y mae credyd cynhwysol, yn arbennig, ond diwygio lles a chyni yn yr ystyr ehangach, yn ei chael ar ein cymunedau. Mae'n destun pryder a rennir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, sydd wedi cyfarfod ag arweinydd cyngor Torfaen heddiw mewn gwirionedd, ac roedd rhan o'r drafodaeth yn ymwneud â'r effaith y mae diwygio lles yn ei chael ar bobl sy'n byw yn Nhorfaen. Rwyf wedi bod yn glir iawn gyda Llywodraeth y DU fod yna broblemau difrifol i'w gweld yn sgil cyflwyno'r credyd cynhwysol, yn enwedig yr effaith y mae'r newidiadau i daliadau cymorth tai yn ei chael ar bobl sydd ag ôl-ddyledion rhent.
Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i weld pobl yn cael dewis rhagweithiol i gael y taliad amgen, lle y gwneir y taliad i'w landlord yn hytrach nag i'r unigolyn. Gwyddom fod hynny'n gwneud llawer mwy o synnwyr i bobl nad ydynt wedi gorfod cyllidebu yn y ffordd honno o'r blaen, ac mae'n rhoi sicrwydd i'r unigolyn y bydd ganddynt do uwch eu pennau. Rwyf wedi cael trafodaethau ynglŷn â hynny gyda'r Ganolfan Byd Gwaith yng Nghymru i geisio sicrhau bod gan bobl y dewis rhagweithiol hwnnw ac nad yw'n fater syml o ofyn, 'A hoffech chi daliadau amgen?', oherwydd nid yw 'taliadau amgen' yn golygu unrhyw beth i unrhyw un, ond bod y dewis i gael taliad amgen yn cael ei egluro yn nhermau'r ffaith ei fod yn golygu y bydd eich rhent yn cael ei dalu drosoch ac nad oes rhaid i chi boeni am hynny.
Rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn cael y cyngor a'r cymorth y maent ei angen, a dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £6 miliwn o gyllid grant i gefnogi ein gwasanaethau cynghori ledled Cymru, gan gefnogi cyllid, yn enwedig ar gyfer cyngor rheng flaen, Cyngor Da, Byw'n Well, a phrosiect canlyniadau a rennir Cymunedau yn Gyntaf. Y rheswm am hynny yw oherwydd ein bod yn wirioneddol ymrwymedig i sicrhau bod pobl yn cael cyngor annibynnol yn rhad ac am ddim. Rwyf hefyd wedi siarad â Cyngor ar Bopeth, oherwydd rwyf wedi bod yn awyddus iawn i ddeall eu profiad yn Nhorfaen, lle mae'r cynllun bellach wedi cael ei gyflwyno'n llawn. Roeddent yn glir iawn fod ôl-ddyledion rhent yn broblem i bobl sydd wedi cael eu symud at gredyd cynhwysol. Maent yn cyflawni rhai camau lliniaru lleol, megis mynediad at gronfeydd caledi lleol, er enghraifft, ac mae tenantiaid yn cael cymorth yn y ffordd honno, ochr yn ochr â'r trefniadau taliadau amgen y soniais amdanynt. Ond mae'r neges yn gryf iawn fod y mater hwn yn rhoi pwysau go gryf ar ein gwasanaethau cyngor ac ar Cyngor ar Bopeth yn Nhorfaen, yn arbennig.
A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y dylid cynllunio ein system fudd-daliadau i sicrhau bod gwaith yn talu bob amser? A wnaiff hi ymuno â mi i groesawu'r ffaith bod diweithdra yn Nhorfaen wedi gostwng 37 y cant ers mis Tachwedd 2010? Diolch.
Mae Llywodraeth Cymru yn cytuno'n llwyr y dylai gwaith dalu, a dyna pam fod gennym bryderon mor ddifrifol ynghylch credyd cynhwysol, sydd mewn gwirionedd yn golygu nad yw gwaith yn talu mewn llawer o achosion. Bydd pobl sydd mewn gwaith, megis teuluoedd unig rieni, a theuluoedd gyda phobl anabl sydd mewn gwaith, bydd rhai ohonynt mewn gwirionedd yn gweld eu hincwm yn gostwng o ganlyniad i effaith credyd cynhwysol. Mae'n hollbwysig fod gwaith yn talu, ond mae'n rhaid iddo dalu'n dda yn ogystal, a dyna pam rydym yn gwneud cymaint o waith ar fater y cyflog byw. Ac mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â materion megis contractau dim oriau. Rydym wedi gwneud ymrwymiad i wneud hynny yn y meysydd lle mae gennym bŵer i wneud hynny—er enghraifft, ym maes gofal cymdeithasol. Rydym yn awyddus i sicrhau nad yw contractau dim oriau yn cael eu hystyried bellach yn ffordd dderbyniol o gyflogi pobl.