Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae mater cartrefi gwag yn fater o bryder i Lywodraeth Cymru. Fel y dywedwch, mae rhai prosiectau da wedi cael eu cyflawni o dan ein prosiect cartrefi gwag yn arbennig, ond mae'n gyfle, mewn gwirionedd, i edrych ar draws ein cyfleoedd adfywio i weld sut y gallwn droi'r siopau gwag, er enghraifft, ar ein strydoedd mawr yn gartrefi. Mae hynny'n rhywbeth rydym yn mynd ar ei drywydd drwy ein cynllun benthyca canol trefi, er enghraifft. Mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn rhan o'n prosiect Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ond yn y dyfodol, gallai ffurfio rhan o'n rhaglen buddsoddi mewn adfywio sydd wedi ei thargedu. Rhaglen newydd yw honno a lansiwyd ym mis Hydref y llynedd, sef £100 miliwn o fuddsoddiad mewn adfywio. Felly, pan fyddwn yn meddwl am adfywio, rwy'n awyddus inni feddwl hefyd yng nghyd-destun adeiladu cartrefi, ac yn arbennig, troi eiddo gwag yn ôl yn gartrefi.