Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:27 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Gareth Bennett Gareth Bennett UKIP 2:27, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Ie. Diolch am yr ateb. Rwy'n credu y byddai dull cyfannol, fel rydych wedi'i awgrymu, yn dda, ond credaf fod angen i chi gadw ar ben y sefyllfa mewn perthynas â chartrefi gwag fel mater penodol. Nawr, o ran cynyddu'r cyflenwad tai mewn ffyrdd eraill, gwn eich bod chi a Mark Drakeford, y Gweinidog Cyllid, wedi bod yn trafod y posibilrwydd o dreth ar dir gwag. A allech chi roi unrhyw newyddion i ni am gynnydd y Llywodraeth ar y mater hwn, a sut rydych yn credu y gallai hyn helpu'r sefyllfa dai os byddwch yn cytuno i fwrw ymlaen â'r dreth honno?