Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:22 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae sicrhau ein bod yn cadw golwg ar y cynlluniau datblygu lleol sy'n cael eu mabwysiadu ar draws Cymru yn wirioneddol hanfodol o ran sicrhau bod y cartrefi sydd eu hangen ar Gymru yn cael eu darparu. Ar gyfer ardal Dwyrain De Cymru, mae yna gyfleoedd a heriau sylweddol sy'n fwy nag unrhyw awdurdod cynllunio lleol unigol, ac yn sicr y ffordd orau o fynd i'r afael â hwy yw drwy sicrhau bod awdurdodau lleol yn gweithio gyda'i gilydd, a dyna pam rwy'n falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros gynllunio wedi ysgrifennu at awdurdodau lleol yn yr ardal, yn eu gwahodd i ddod at ei gilydd a chyflwyno cynlluniau i baratoi cynllun datblygu lleol ar y cyd.
Rydym yn gwybod bod tuedd gadarnhaol o adeiladu tai wedi bod ledled Cymru—cafodd 722 o anheddau newydd eu cwblhau yn ne Cymru yn ystod y chwarter rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2017. Ond rwy'n cytuno bod cael gwared ar y tollau yn rhoi cyfle i ni gynyddu a gwella cyflymder y broses o adeiladu tai, fel y mae ein rhaglen tai arloesol yn ei wneud yn yr ardal, er enghraifft. Rwy'n awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol ac adeiladwyr tai i sicrhau ein bod yn gwneud hynny ochr yn ochr â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.