Tollau Pontydd Hafren

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 2:23, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yr hyn a fyddai'n sicr o helpu i fynd i'r afael ag unrhyw gynnydd mewn prisiau tai fyddai cyflawni cynlluniau Llywodraeth Cymru i greu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Felly, a fydd eich trafodaethau gyda Chyngor Dinas Casnewydd a Chyngor Sir Fynwy yn cynnwys trafodaeth ynglŷn â'r ffordd orau o ddatblygu cartrefi fforddiadwy yn yr ardal honno?