Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rwy'n ddiolchgar i lefarydd Plaid Cymru am ei geiriau caredig ar ddechrau ein perthynas newydd. Nid wyf yn siŵr fy mod i erioed wedi ystyried fy hun fel rhywun sydd â steil mewn unrhyw ffordd. Efallai fy mod i'n rong. Y tôn rwyf eisiau ei gymryd yn ystod y drafodaeth yr wyf wedi'i ddechrau yn barod gydag arweinwyr a chynghorwyr ar draws y wlad yw tôn o barch tuag at gynghorwyr a chynghorau ar gyfer y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Dywedais i yn ystod y drafodaeth a gawsom ni ar y setliad ddoe mai bod yn gynghorydd ac arweinydd cyngor yw un o'r swyddi mwyaf anodd yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd.
Cefais fy magu mewn cartref ble roedd gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu trafod o gwmpas y ford. Roedd fy nhad wedi gweithio i Tredegar Urban District Council, Blaenau Gwent Borough Council ac wedyn Blaenau Gwent County Borough Council. Felly, mae gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau cynghorau yn bethau y cefais fy magu gyda nhw. Rwy'n parchu'r gwaith sy'n cael ei wneud ac rwy'n parchu'r gweithwyr sy'n cyflwyno hynny.