Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rwy'n cytuno efo chi. Wrth gwrs, mae'r berthynas rydych chi'n ei datblygu efo'r awdurdodau ac arweinwyr cynghorau gwahanol yn allweddol. Mi gymerodd eich rhagflaenydd yr ymagwedd o gydweithio, efo perthynas wedi'i hadeiladu ar sail parch, er y tensiynau sydd yn aml yn bodoli rhwng awdurdodau lleol a'r Llywodraeth. Ond nid oedd hynny bob tro yn wir, wrth gwrs, gan edrych ar gyn-Weinidogion eraill o'ch plaid chi. Rydw i yn cofio—pan oeddwn i'n aelod cabinet yng Nghyngor Gwynedd, cefais brofiad o steil un o'ch rhagflaenwyr chi a oedd yn defnyddio steil y prifathro blin efo cansen. Nid yw steil fel yna byth yn mynd i gael y maen i'r wal.
Mae rhanbartholi gwasanaethau yn enghraifft o ble mae angen troedio'n ofalus, wrth gwrs, a chynnal y berthynas bwysig yma efo'r awdurdodau lleol, ond mae yna agwedd hefyd sydd angen bod yn bwysig ynglŷn â fo efo rhanbartholi, sef yr atebolrwydd. Er fy mod i'n cefnogi'r ymdrechion i sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu rhedeg yn fwy strategol, ac felly yn fwy effeithiol, rwyf yn poeni am yr agwedd yma o golli'r atebolrwydd. Sut ydych chi'n mynd i sicrhau fod yr haen newydd yma o lywodraethu yn mynd i fod yn atebol i gynghorwyr ac, yn bwysicach, efallai, i etholwyr?