Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:36, 17 Ionawr 2018

Mae'r Aelod yn fy nhemptio fi i fynd i dir peryglus iawn. A gaf i ddweud hyn? Fy marn bersonol i, fel unigolyn, yw fy mod i'n cefnogi STV. Rydw i'n credu mai dyna'r system sydd yn cynnig y mwyaf o atebolrwydd ac sy'n cynnig pleidlais deg i bawb ar draws y wlad—ar gyfer y lle yma, a llywodraeth leol, a, frankly, San Steffan hefyd. Ond nid ydw i'n siŵr, pan rydw i'n dweud hynny, fy mod i'n cynrychioli barn pawb—pob un ar y meinciau yma ym mhob un rhan o'r Siambr. Felly, rydw i yn bwriadu symud ymlaen gyda newidiadau i drefniadau etholiadol. Rydw i wedi gofyn caniatâd i wneud datganiad llafar ar hynny ar y degfed ar hugain o'r mis yma, pan fyddaf i'n gallu gwneud datganiad clir ar y ffordd rydym ni'n bwriadu symud ymlaen gyda diwygio trefniadau etholiadol ar gyfer llywodraeth leol ar gyfer y dyfodol.