Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 17 Ionawr 2018.
Edrychaf ymlaen, felly, i weld sut yn union rydych chi'n mynd i gynnal yr atebolrwydd pwysig yna, sef beth roeddwn i'n holi yn ei gylch.
Rwy'n troi rwan at y system etholiadol, ac mae'r Papur Gwyn ar ddiwygio llywodraeth leol yn nodi na fyddai diwygio'r system etholiadol i STV yn fandadol i holl gynghorau Cymru. Hynny yw, mi fyddai gan y cynghorau'r dewis i ddod â fo ymlaen ai peidio. Yn fy marn i, mae hynny'n gam gwag a fuasai'n galluogi rhai awdurdodau lleol i beidio â symud tuag at wir gynrychiolaeth, am resymau gwleidyddol, efallai, neu hunan-ddiddordeb, neu ba bynnag reswm, a dweud y gwir. A wnewch chi ystyried hynny, felly, a sicrhau bod diwygio'r system etholiadol i STV yn fandadol i holl awdurdodau lleol Cymru?