Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 17 Ionawr 2018.
Mae gwasanaethau awdurdodau lleol yn chwarae rhan hollbwysig ym mywyd pob dinesydd yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu cyllid ar gyfer ein holl awdurdodau lleol, fel y gall y gwasanaethau hanfodol hynny, y rhai statudol a'r rhai anstatudol, barhau i gael eu darparu. Mae darpariaeth gwasanaethau lleol, fodd bynnag, yn fater i'w benderfynu'n lleol.