Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:47 pm ar 17 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwasanaethau hamdden yn hanfodol i iechyd ac ansawdd bywyd a mwynhad ein pobl yma yng Nghymru. A wnewch ymuno â mi i gydnabod gwerth a chyfraniad Casnewydd Fyw, sy'n darparu gwasanaethau hamdden, chwaraeon a diwylliannol? Rwyf wedi cymryd rhan mewn nifer o gyfarfodydd y maent wedi eu cael gyda Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan ac amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Cyngor Dinas Casnewydd, i sicrhau ein bod yn cymryd camau i ysgogi ein poblogaeth leol i fod yn fwy egnïol. Credaf fod hynny'n dyst i ehangder gweledigaeth Casnewydd Fyw a'r cyfraniad y maent yn ei wneud. Yn ddiweddar, cawsant lwyddiant gydag ymgais i ddenu'r gemau trawsblaniadau i Gasnewydd, a fydd yn arwain at fuddion amlwg iawn. Felly, buaswn yn falch iawn pe baech yn ymuno â mi heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, i gydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud, ac yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i barhau i weithio gyda hwy a phartneriaid allweddol er mwyn sicrhau bod y boblogaeth leol yn elwa o'r manteision hyn.