Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch am godi'r mater pwysig hwn, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am y problemau ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol y mae eich etholwyr wedi eu hwynebu. Cyfarfûm â'r comisiynydd heddlu a throseddu, Alun Michael, yn gynharach yn yr wythnos, a'i ddirprwy, ac maent yn gweithio gyda'i gilydd i arwain y gwaith hwnnw, sy'n datblygu adnodd ar gyfer pob darparwr tai cymdeithasol, gobeithio, yn amodol ar werthusiad llwyddiannus y cynllun peilot hwnnw. Ac rwy'n bwriadu ei gyflwyno cyn gynted â phosibl ar ôl y gwerthusiad. Rwy'n disgwyl cael yr adroddiad llawn erbyn diwedd mis Mawrth, ac rwy'n awyddus i wybod pa awdurdodau lleol a pha landlordiaid cymdeithasol yn enwedig a fyddai'n elwa fwyaf o ddefnyddio'r adnoddau. Felly, pe gallem gael sgwrs efallai, a nodi rhai landlordiaid cymdeithasol cofrestredig penodol yn Nhorfaen, gallai hwnnw fod yn fan da i allu dechrau gwneud rhywfaint o gynnydd. Yn amlwg, mae materion cyfrinachedd ynghlwm wrth hyn, felly os hoffech i mi ofyn i fy swyddogion siarad gydag unrhyw landlordiaid penodol ynglŷn â'r materion y mae eich etholwyr yn eu hwynebu, buaswn yn fwy na pharod i wneud hynny.