Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lynne Neagle Lynne Neagle Labour 3:01, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Yn anffodus, rwyf wedi gweld cryn gynnydd yn ddiweddar yn nifer y cwynion gan denantiaid ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae rhai ohonynt wedi bod yn achosion difrifol iawn a hyd yn oed yn achosion lle roedd bywyd yn y fantol. Un o'r pethau sy'n ymddangos yn gyson yw amharodrwydd pobl i roi tystiolaeth am eu bod ofn y bydd rhywun yn dial arnynt, ac er bod cynnydd wedi bod yn y defnydd o dystion proffesiynol i gefnogi achosion dros y blynyddoedd diwethaf, mae'n anochel na fyddant yn gweld neu'n dyst i'r un broblem â rhywun sy'n byw gyda sefyllfa 24/7. Pa gymorth pellach y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i sicrhau bod landlordiaid cymdeithasol a thenantiaid yn Nhorfaen yn cael eu diogelu'n well i sicrhau bod achosion o'r fath yn cael eu trin yn fwy effeithiol, a hyd yn oed i'w hatal rhag digwydd yn y lle cyntaf?