Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 17 Ionawr 2018.
Gwnaf, yn sicr, Ddirprwy Lywydd. Gwn fod yr Aelod dros Ddwyrain Casnewydd wedi bod yn hybu ffordd iach o fyw a ffordd egnïol o fyw ers blynyddoedd lawer yn y lle hwn, a'i fod yn byw yn y ffordd honno hefyd, sy'n esiampl gyson i'r gweddill ohonom. A gaf fi ddweud hyn: mae Casnewydd Fyw yn elwa o berthynas gref, gyda chyngor blaengar yng Nghasnewydd, ac arweinyddiaeth ddynamig sy'n ceisio sicrhau bod sefydliadau yn y ddinas yn gweithio gyda'i gilydd? Rwy'n ymwybodol o'r gwaith y mae Casnewydd Fyw yn ei wneud o ran annog a chefnogi teuluoedd ag anghydraddoldebau iechyd i fyw bywyd iach. Mewn llawer o ffyrdd, credaf y gall hon fod yn esiampl i nifer o sefydliadau ac awdurdodau eraill ledled gweddill Cymru.