Y Buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn TVR

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:12, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Dechreuodd Hewlett-Packard, wrth gwrs, gyda dau o bobl, a Facebook gydag un, felly ni chredaf fod nifer y bobl sydd gennych ar y dechrau yn bwysig iawn; y nifer o bobl sydd gennych ar y diwedd sy'n bwysig.

Mae tair ffordd o ariannu: grantiau neu fenthyciadau nad ydynt yn ad-daladwy, fel roeddent yn arfer cael eu disgrifio, benthyciadau ac ecwiti. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro pam y mae wedi dewis ecwiti yn yr achos hwn?