Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:13 pm ar 17 Ionawr 2018.
Fe ddewisom ni gymysgedd o fenthyciad ac ecwiti: ecwiti, yn rhannol, i sicrhau bod modd inni elwa o lwyddiant y cwmni, fel rwyf eisoes wedi dweud, a'r benthyciad er mwyn sicrhau bod y gwaith gweithgynhyrchu yn dod i Gymru. Ceir risg a budd gydag unrhyw fuddsoddiad, ond gyda'r buddsoddiad penodol hwn, mae'r brand yn hynod o gryf ac felly mae cryn botensial ar gyfer budd. Mae'r potensial ar gyfer budd i Flaenau Gwent, unwaith eto, yn enfawr o bosibl, ac felly credaf fod y cydbwysedd rhwng risg a budd yn gwyro i raddau helaeth tuag at fudd.