Part of the debate – Senedd Cymru am 3:19 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roedd yr hen synagog Gothig wych ym Merthyr Tudful wedi gwasanaethu'r gymuned Iddewig yno ers y 1870au. Roedd y gymuned Iddewig ym Merthyr Tudful ar ei mwyaf yn y 1930au, ond er eu bod bellach wedi diflannu o'r dref i raddau helaeth, mae arwyddion o'u presenoldeb yn dal i fodoli, gan gynnwys y fynwent Iddewig yng Nghefncoedycymer.
Ym 1955, cynhaliwyd, ac rwy'n dyfynnu, gwasanaeth gwefreiddiol lle ailgysegrwyd y Synagog 80 oed gan y Prif Rabi... Yn ei anerchiad... cyfeiriodd y Prif Rabi at yr erledigaeth a barodd i'r Iddewon adael eu tiroedd genedigol a'r modd roeddent wedi dod o hyd, ac rwy'n dyfynnu, 'i ryddid i addoli ym Merthyr Tudful.'
Felly, mae'n drist nodi cyflwr cyfredol yr hen synagog, fel y gwelwch yn y llun. Yn ddiweddar, mapiodd y Sefydliad Treftadaeth Iddewig, sefydliad a leolwyd yn y DU, yr holl synagogau hanesyddol ledled Ewrop, a'u categoreiddio yn ôl eu harwyddocâd a'u cyflwr. Mae synagog Merthyr Tudful yn un o ddwy yn unig yn y DU a gafodd sylw yn y gwaith hwn fel y rhai sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf. Diolch byth, mae'r sefydliad eisoes wedi codi arian i gynnal astudiaeth ragarweiniol o'r adeilad, a allai arwain at ei adfer. Mae'r synagog yn rhan bwysig o'n hanes cyfunol, nid yn unig i Ferthyr Tudful ac i Gymru, ond y tu hwnt i hynny hefyd. Felly, hoffwn ddymuno'n dda i'r sefydliad gyda'u gwaith; maent yn haeddu llwyddo ac mae'r adeilad pwysig hwn yn haeddu cael ei achub.