6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Isherwood Mark Isherwood Conservative 4:00, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Athro Michael Barnes, sy'n niwrolegydd a meddyg ymgynghorol ym maes adsefydlu yn y DU, wedi tynnu sylw at ddwsinau o bapurau ymchwil a adolygwyd gan gymheiriaid sydd wedi profi effeithiolrwydd canabis meddygol. Dywedodd fod cyffuriau o'r fath wedi lleddfu poen yn ei holl ffurfiau, wedi trin gwayw yn y cyhyrau, gorbryder a chyfog a chwydu mewn cleifion sy'n cael cemotherapi. Dywedodd hefyd fod yna dystiolaeth fod canabis meddyginiaethol yn llwyddo i helpu pobl ag epilepsi ac anhwylderau cysgu, a disgrifiodd y sgil-effeithiau sy'n gysylltiedig â defnyddio'r cyffur mewn cyd-destun meddyginiaethol fel rhai bach iawn. Ychwanegodd y gall miloedd o bobl sydd â chyflyrau cronig elwa o'r cyffur hwn sydd wedi bodoli ers canrifoedd.

Canfu astudiaeth ddiweddar o Tel Aviv yn Israel fod canabis meddygol yn gwella cyflwr plant sy'n dioddef o barlys yr ymennydd yn sylweddol. Yn ôl eu canfyddiadau interim, roedd triniaeth gydag olew canabis yn lleihau symptomau'r anhwylder ac yn gwella sgiliau echddygol plant. Roedd hefyd yn gwella ansawdd cwsg, ysgarthu a hwyliau cyffredinol y plant.

Mae Gofal Arthritis Cymru ac Ymchwil Arthritis y DU yn datgan bod angen dybryd am ddulliau gwell o leddfu poen i helpu'r miliynau o bobl sy'n byw gyda'r artaith ddyddiol a achosir gan arthritis, a bod gwaith ymchwil blaenorol wedi awgrymu y gallai derbynyddion canabinoid wedi eu targedu helpu i leddfu poen a llid yn y cymalau. Pan fynychais y digwyddiad ar y gymalwst yn y Cynulliad fis Tachwedd diwethaf, dysgais am ddioddefwyr arthritis sy'n defnyddio canabis i helpu i reoli'r boen a achosir gan eu cyflwr. Y mis diwethaf, soniodd WalesOnline am fam-gu o Gwmbrân a gafodd ddiagnosis o sglerosis ymledol yn 2014 sy'n dweud ei bod bellach yn dibynnu ar ganabis i leddfu ei symptomau, ar ôl bod ar nifer o feddyginiaethau presgripsiwn gyda sgil-effeithiau gwael. Fodd bynnag, wrth dynnu sylw at beryglon prynu canabis, nododd fod ffrind agos iddi a oedd yn dioddef o sglerosis ymledol wedi dioddef lladrad gan rywun yn ei bygwth â chyllell wrth geisio prynu canabis i drin ei chyflwr.

Yn ddiweddar, daeth nifer o etholwyr i gysylltiad â mi ynghylch y ddadl hon. Dywedodd un:

Mae gennyf MS ac rwy'n credu y gallai llawer o bobl sydd â salwch hirdymor ac sy'n byw gyda phoen elwa o ddefnyddio canabis.

Dywedodd un arall:

Rwy'n byw y tu allan i Wrecsam ac wedi bod yn dioddef o sglerosis ymledol ers 18 mlynedd bellach. Yn ddiweddar rwyf wedi gallu cael Sativex, sy'n fanteisiol iawn i mi. Fodd bynnag, ni chaiff ei roi ar bresgripsiwn ar gyfer poen, ac rwy'n deall bod y manteision o ddefnyddio canabis yn helpu'n fawr gyda hyn a symptomau eraill hefyd.

Yn gynharach, yn yr adeilad hwn, cyfarfûm â rhywun sydd wedi teithio o ogledd Cymru y deallaf ei fod yn dioddef o sglerosis ymledol ond nad yw'n defnyddio canabis am ei fod yn anghyfreithlon, ac mae eisiau'r hawl cyfreithiol i ddewis gwneud hynny i weld a yw'n lleddfu ei boen. Mae'n bresennol yma heddiw. Mae'n awyddus i glywed newyddion cadarnhaol oddi wrthym.

Fel y mae MS Cymru wedi dweud wrthyf, soniodd llawer o bobl nad oeddent yn defnyddio canabis i geisio rheoli symptomau eu cyflyrau yn syml iawn am nad ydynt yn gwybod ble i ddod o hyd iddo, a faint i'w gymryd pe baent yn llwyddo i ddod o hyd iddo.

Mae nifer gynyddol o wledydd yn rheoleiddio'r defnydd meddygol o ganabis a deilliadau canabis oherwydd cryfder y dystiolaeth—mae Canada, yr Iseldiroedd, Israel, a 29 o daleithiau yn Unol Daleithiau America yn rheoleiddio canabis gwair at ddiben meddygol. Mae nifer o wledydd eraill, gan gynnwys yr Almaen a'r Swistir, yn galluogi cleifion i fewnforio canabis at ddefnydd meddygol o'r Iseldiroedd. Dyma wledydd nad ydynt yn deddfu mewn materion o'r fath heb sylfaen dystiolaeth. Pasiwyd Bil Rheoleiddio Canabis at Ddibenion Meddyginiaethol Iwerddon 2016 yn y Dáil ar ddiwedd 2016 ac mae ar hyn o bryd yn y Cyfnod Pwyllgor. Yn y cyfamser, defnyddir trwyddedau ar sail achosion unigol gan Weinidog iechyd Iwerddon.

Mae ein cynnig hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi system o fewn y GIG yng Nghymru lle y gellid sicrhau bod canabis ar gael at ddibenion meddyginiaethol drwy bresgripsiwn i'r rheini a allai gael budd ohono. Un o'r safbwyntiau a ddefnyddir yn erbyn sicrhau bod canabis ar gael at ddibenion meddyginiaethol yw y byddem o bosibl yn gweld cleifion yn cael eu presgripsiynau ar gyfer canabis ac yn ei werthu ar y strydoedd. Fodd bynnag, fel y mae cyfarwyddwr Cymdeithas MS Cymru wedi datgan:

Ers fy amser gyda'r Gymdeithas MS, nid wyf erioed wedi clywed am unrhyw un sy'n byw gyda sglerosis ymledol sy'n casglu eu Oramorph neu unrhyw gyffur arall o ran hynny ac yn anelu at y gornel stryd agosaf i'w werthu!

Rwy'n tybio bod yr un peth yn wir am bobl â chyflyrau eraill mewn amgylchiadau tebyg.

Ym mis Hydref y llynedd, cyflwynodd yr AS Llafur dros Orllewin Casnewydd, Paul Flynn, Fil rheol 10 munud ar gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn San Steffan. Pasiwyd y Bil yn ddiwrthwynebiad i'r darlleniad nesaf ar 23 Chwefror 2018. Rwy'n ailadrodd: pasiwyd y Bil yn ddiwrthwynebiad. Fel y dywedodd,

Mae'r farn fyd-eang yn symud i gyfeiriad cyfreithloni canabis. Mae 29 o daleithiau yn America—y mwyafrif—eisoes wedi cyfreithloni canabis meddygol heb unrhyw broblemau. Ceir chwech neu saith o wladwriaethau yn Ewrop ble mae'n bosibl defnyddio canabis yn feddyginiaethol.

Ychwanegodd:

Os ydym yn cyfreithloni cyffuriau, rydym yn lleihau sgil-effeithiau drwy fynd â'r farchnad o ddwylo'r troseddwyr a'r twyllwyr, a rhoi'r cyffuriau hynny mewn marchnad gyfreithlon dan reolaeth meddygon gan ddefnyddio blaenoriaethau meddygol. Dyma'r gwersi o'r holl daleithiau yn America sydd wedi cymryd y cam hwn.

Aeth ymlaen:

Mae'n bryd inni arwain barn gyhoeddus yn hytrach na'i dilyn. Byddai'n weithred o dosturi a dewrder i ni basio'r Bil hwn a gwneud y newid bach iawn y mae'n ei argymell: symud canabis o atodlen 1 i atodlen 2.

Wedi'r cyfan, am ein bod yn derbyn bod yna bobl ag afiechydon gwanychol a phoen cronig sy'n ceisio lleddfu eu symptomau'n anghyfreithlon drwy ddefnyddio canabis, ac y byddai'n llawer gwell gan y mwyafrif ohonynt gael gafael ar feddyginiaeth ganabinoid ar bresgripsiwn yn gyfreithiol na chael eu gorfodi i ysmygu neu gael gafael ar sylweddau'n anghyfreithlon, mae canllawiau'r Cyngor Dedfrydu ar droseddau cyffuriau eisoes yn nodi amgylchiadau o'r fath fel ffactor lliniaru posibl. Am sefyllfa wallgof. Yn lle hynny, dylai Cymru gael system lle y gall canabis at ddibenion meddyginiaethol fod ar gael drwy bresgripsiwn i'r rhai a allai gael budd ohono. Felly, gadewch inni sicrhau bod hynny'n digwydd yn awr.