Part of the debate – Senedd Cymru am 3:56 pm ar 17 Ionawr 2018.
Diolch, Lywydd. Mae'r ddadl heddiw yn dilyn cyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol i drafod canabis meddyginiaethol a gynhaliwyd ym mis Hydref 2017, ac a fynychwyd gan bobl ledled Cymru sy'n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau meddygol—mae llawer ohonynt yn yr oriel gyhoeddus heddiw—ac sy'n cael budd o ddefnyddio canabis at ddibenion meddyginiaethol, ond sydd, drwy wneud hynny, yn wynebu risg o gael eu herlyn. Fel Aelod Cynulliad dros ogledd Cymru a chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol, bûm yn gweithio gyda Chymdeithas MS Cymru ar y mater hwn ers peth amser. Mae'r cynnig yn cydnabod, er efallai nad mater i Lywodraeth Cymru yw cyfreithloni canabis at ddibenion meddyginiaethol, mae'n gofyn i Lywodraeth Cymru ofyn i Lywodraeth y DU symud canabis o Atodlen 1 i Atodlen 2 fel bod modd ei bresgripsiynu a'i gyflenwi'n gyfreithlon i gydnabod gwerth meddyginiaethol y cyffur.
Ym mis Gorffennaf 2014, argymhellodd Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru y cyffur Sativex, cyffur sy'n seiliedig ar ganabis, ar gyfer trin sbastigedd, ac i fod ar gael wedyn i grŵp bach yn unig o bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol sy'n bodloni'r meini prawf. Cytunodd Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gymeradwyo Sativex. Fodd bynnag, mynegodd Cymdeithas MS Cymru bryder ym mis Mawrth y llynedd fod llawer o bobl yn cael trafferth i'w gael oherwydd nad oedd seilwaith yn bodoli ar ei gyfer. Yn yr ychydig fisoedd diwethaf yn unig y bu modd i'r holl fyrddau iechyd lleol yng Nghymru roi Sativex ar bresgripsiwn i'r bobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol y bernir eu bod yn gymwys. Newidiodd Cymdeithas MS y DU ei safbwynt polisi i alw ar Lywodraeth y DU a chyrff iechyd i ddatblygu system sy'n cyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol, yng ngoleuni tystiolaeth gadarnhaol o ddefnyddio canabis ar gyfer trin sbastigedd a phoen. Mae'r gymdeithas yn amcangyfrif y gallai oddeutu 10,000 o bobl â sglerosis ymledol yn y DU elwa o hyn—nid pawb, ond nifer enfawr o bobl. Fel y dywed Cymdeithas MS Cymru, gall symptomau sy'n gysylltiedig â sglerosis ymledol fod yn ddidrugaredd ac yn flinderus a'i gwneud yn amhosibl i ymdopi â bywyd bob dydd. Gall y drefn gyffuriau ddyddiol gonfensiynol ar gyfer y rhai sy'n dioddef o'r symptomau hyn gynnwys morffin, codin, paracetamol, pregabalin a diazepam.
Mae'r dystiolaeth glinigol ac anecdotaidd am effeithiolrwydd canabis at ddefnydd meddyginiaethol yn gryf. Ni all pobl sy'n byw gyda chyflyrau fel sglerosis ymledol, dystonia, epilepsi, arthritis, parlys yr ymennydd a chanser sy'n defnyddio canabis i leddfu symptomau sy'n gysylltiedig â'u cyflyrau aros am adeg pan fydd gan Gymru gymhwysedd deddfwriaethol i gyfreithloni canabis at ddefnydd meddyginiaethol. Dylent allu gwneud y penderfyniad heb ofni cael eu herlyn. Mae cael gafael ar gyflenwad dibynadwy o ganabis yn broblem wirioneddol i lawer o bobl. Mae rhai'n teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i ddefnyddio gwerthwyr stryd. Mae rhai'n pryderu y byddant, drwy ddefnyddio canabis, yn rhoi pobl sy'n agos atynt mewn perygl o gael eu herlyn ac o ddod i gysylltiad â chyffuriau eraill. Ym mis Medi 2016, galwodd grŵp seneddol hollbleidiol y DU ar ddiwygio polisi cyffuriau yn bendant iawn ar Lywodraeth y DU i gyfreithloni canabis meddyginiaethol yn seiliedig ar ganlyniadau eu hymchwiliad saith mis i'r mater, ac ar ganfyddiadau adolygiad annibynnol o dystiolaeth fyd-eang dan arweiniad yr Athro Michael Barnes, a oedd yn cydredeg â'r ymchwiliad. Clywodd yr adroddiad hwnnw fod pobl yn dioddef yn ddiangen a bod pobl mewn poen mawr yn teithio dramor i ddod o hyd i'r canabis sydd ei angen arnynt i leddfu eu symptomau. A daeth i'r casgliad y gellid newid hyn oll drwy symud canabis o Atodlen 1 i Atodlen 2 at ddibenion meddygol. Byddai newid o'r fath hefyd yn hwyluso ymchwil ac yn arwain at feddyginiaethau newydd ar gyfer poen a chlefydau cronig.