Part of the debate – Senedd Cymru am 4:11 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw a'i noddi gyda chydweithwyr o sawl plaid yn y Siambr hon. Mae'n dilyn ymgyrchu effeithiol ar sail tystiolaeth gan Gymdeithas MS y DU ac eraill, a thrafodaethau gwerthfawr yn y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol. Mewn cyfarfod o'r grŵp hwnnw fis Hydref diwethaf, anogais gleifion a gwleidyddion i fwrw ymlaen i ymgyrchu ar hyn, ac rwy'n hapus i gynnig fy nghefnogaeth barhaus i'r ymgyrch honno heddiw.
Mae dosbarthiad cyffuriau yn rhywbeth sy'n cael ei benderfynu'n bennaf ar lefel y DU. Nawr, rwyf fi a'r bobl ar y meinciau hyn eisiau i'r sefyllfa honno newid; rydym am allu penderfynu'r materion hyn drosom ein hunain yma yng Nghymru. Ond yn y cyfamser, rwyf wedi dadlau y dylai Cymru fabwysiadu safbwynt ar hyn. Mae Sativex wedi bod yn cael ei drwyddedu ar gyfer ei ddefnyddio yma, ond mae mynediad ato'n anodd ac yn gyfyngedig. Mae gennym sefyllfa ehangach lle mae rhai pobl sy'n byw gyda sglerosis ymledol a chyflyrau eraill yn gorfod defnyddio canabis yn anghyfreithlon i helpu gyda'u symptomau. Rwyf wedi clywed tystiolaeth gan bobl sy'n gorfod prynu canabis mewn ffordd sy'n dal i fod yn anghyfreithlon yn dechnegol, a sefyllfa lle mae pobl ar eu pensiwn wedi gorfod dod o hyd i fasnachwyr sy'n gallu tyfu a gwerthu canabis, pan fo morffin, fel y mae pobl eraill wedi dweud—a heroin, i bob pwrpas, yw morffin—yn cael ei roi ar bresgripsiwn. Nawr, ni all hynny fod yn iawn, ac mae'n dangos pa mor wrthgynhyrchiol yw polisi cyffuriau yn y wlad hon ar hyn o bryd.
Siomedig oedd gweld Llywodraeth Cymru yn y cyfryngau heddiw yn defnyddio'r gwaharddiad fel esgus i beidio â rheoleiddio canabis. Fe ddyfynnaf Lywodraeth Cymru, a ddywedodd, drwy lefarydd, a dyfynnaf:
Nid defnyddio cyffur amrwd anghyfreithlon o ansawdd anhysbys yw'r ffordd rydym am ddarparu meddyginiaethau.
Lywydd, holl bwynt canabis meddyginiaethol yw nad yw mwyach yn gyffur amrwd anghyfreithlon, nid yw mwyach o ansawdd anhysbys, oherwydd gellir dod o hyd i ffynonellau priodol sy'n cael eu rheoleiddio a gellir deall y gwahanol fathau a'u mathau gwahanol o fudd yn briodol.
Ni fydd cadw'r gwaharddiad yn lleihau'r defnydd o ganabis, ond yn hytrach, bydd yn atal defnydd meddyginiaethol diogel wedi ei reoleiddio ac yn gwthio pobl sy'n parchu'r gyfraith tuag at farchnad anghyfreithlon. Dyna pam mai un cam clir ymlaen yw dad-droseddoli canabis at ddefnydd meddyginiaethol, ac mae'r cynnig heddiw yn nodi sut y gallai Cymru gefnogi newid o'r fath a pharatoi i hynny ddigwydd.
Mae'r ddadl ehangach ynglŷn ag a ddylid gwahardd cyffuriau a gwneud eu defnydd yn anghyfreithlon neu a ddylid eu rheoli a'u rheoleiddio fel bod modd eu defnyddio'n ddiogel yn dal i fod yn un sy'n rhaid inni ei chael. Ond mae gennym enghreifftiau yn y cynnig hwn o wledydd a thiriogaethau sydd wedi caniatáu'r newid hwn ar gyfer defnyddio canabis yn feddyginiaethol, a rhestrwyd y gwledydd hynny, ond daw Canada a'r Iseldiroedd i'r meddwl.
Nawr, rwy'n falch o weld cyfeiriad at yr adolygiad gan yr Athro Michael P. Barnes, yn deillio o'r grŵp trawsbleidiol yn San Steffan, ac mae'n bwysig gallu cadarnhau a rhoi cyhoeddusrwydd i'r dystiolaeth ynglŷn â sut y mae canabis yn helpu i reoli symptomau. Ar ôl ymchwiliad saith mis, canfu adolygiad Barnes dystiolaeth, a dyfynnaf:
Yn gyffredinol, ceir tystiolaeth dda o blaid y defnydd o ganabis mewn llawer o gyflyrau pwysig sy'n effeithio ar filoedd lawer o bobl anabl.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl heddiw yn arwain at ganlyniad lle y gall Llywodraeth Cymru fabwysiadu safbwynt ffurfiol ar hyn bellach. Dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno'r achos i Lywodraeth y DU o blaid caniatáu canabis at ddefnydd meddyginiaethol. Yna dylai nodi sut y gellid cynhyrchu presgripsiynau ar gyfer y bobl sydd ei angen, ac o fethu gwneud hynny, os nad yw'r Llywodraeth yn awyddus i gynhyrfu'r dyfroedd neu fod yn feiddgar, beth am gynnig cyfarfod â'r Athro Barnes a chlywed crynodeb o'r dystiolaeth honno? Drwy adeiladu'r achos ac anfon neges y gallai cleifion o Gymru elwa o'r triniaethau hyn, gallwn helpu i ennill y ddadl ar lefel y DU lle mae penderfyniadau ar ddad-droseddoli yn dal i gael eu gwneud.
Mae'r Cynulliad yma i fod yn radical, i gymryd camau sy'n helpu dinasyddion Cymru i wneud gwahaniaeth ymarferol a gwirioneddol i fywydau pobl. Weithiau, gall yr hyn sy'n ymddangos yn radical iawn fod yn ddim mwy na synnwyr cyffredin mewn gwirionedd. Diolch yn fawr.