Part of the debate – Senedd Cymru am 4:16 pm ar 17 Ionawr 2018.
Hoffwn ddiolch i Mark, Leanne, Mike a Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae llawer o fanteision meddyginiaethol i ganabis. Gellir ei ddefnyddio i reoli poen, trin sbastigedd, helpu gyda sgil-effeithiau cemotherapi, a dengys astudiaethau newydd y gall helpu i reoli ffitiau epileptig mewn plant. Fodd bynnag, nid ydym ond megis dechrau deall y manteision posibl y gall canabis eu darparu, ac rwy'n croesawu'r ymchwil ehangach i'w ddefnydd at ddibenion meddyginiaethol.
Eto i gyd, ni allaf gefnogi ailddosbarthu canabis, yn union fel na fuaswn yn cefnogi ailddosbarthu opiwm neu heroin, er y gallai fod iddynt ddiben meddyginiaethol hefyd. Yn anffodus, mae nifer o ffyrdd y gall ysmygu canabis beri niwed. Nododd Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint fod mwg canabis yn garsinogen a gwelodd hefyd fod ymwybyddiaeth o'r perygl yn isel iawn, gyda 40 y cant o rai dan 35 oed yn meddwl nad oedd canabis yn niweidiol wrth ei ysmygu. Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros gyfnod hir—