Part of the debate – Senedd Cymru am 4:18 pm ar 17 Ionawr 2018.
Popeth yn iawn; croeso.
Mae astudiaethau wedi canfod bod THC, y prif sylwedd seicoweithredol yn y planhigyn canabis, yn gallu achosi nam gwybyddol, yn enwedig o'i gymryd dros amser hir. Mae tystiolaeth feddygol ddiweddar yn awgrymu'n gryf fod defnydd hirdymor o ganabis gan bobl sy'n dechrau ei ddefnyddio yn gynnar—maent yn arddangos tueddiad uwch o gael problemau iechyd meddwl ac anhwylderau corfforol a datblygiadol eraill. Yn ôl astudiaeth gan Northwestern Medicine yn 2014, pan fydd rhywun yn dechrau defnyddio canabis yn ei arddegau, gall effeithio'n sylweddol ar ddatblygiad yr ymennydd, gan gynnwys llai o weithgaredd ymenyddol, llai o ffibrau niwral mewn rhai mannau a hipocampws, sy'n rheoli gweithrediadau dysgu a chofio, llai o faint na'r cyfartaledd.
Yn fy mlynyddoedd yn gweithio yn y gwasanaeth carchardai, gwelais â'm llygaid fy hun y niwed sy'n gysylltiedig ag ysmygu canabis yn hirdymor. Roedd llawer o'r bobl ifanc yn dioddef paranoia, gorbryder, problemau cof a phroblemau eraill o'r fath. Felly mae angen rhagor o ymchwil i ddefnyddio canabis yn hirdymor, a'i effeithiau ar bobl ifanc yn enwedig, cyn y gallwn ddweud ei bod yn ddiogel ei ailddosbarthu at ddefnydd meddygol.
Mae'r Gymdeithas MS yn dweud nad oes digon o dystiolaeth ar hyn o bryd, i awgrymu y gall ysmygu canabis drin sbastigedd neu boen sglerosis ymledol a gall ysmygu effeithio'n negyddol ar sglerosis ymledol yr unigolyn.
Felly, mae angen inni ganolbwyntio ar dynnu'r manteision o'r planhigyn canabis, gan liniaru'r niwed posibl ar yr un pryd. Y brif broblem gyda chanabis yw cymhlethdod y cynhwysion gweithredol, yr amrywiad enfawr a geir yn y lefelau o gyfansoddion rhwng rhywogaethau o blanhigion, y cyltifarau amrywiol, a hyd yn oed o un planhigyn i'r llall. Er y gellid datblygu math penodol o blanhigyn, neu gyltifar, i gynyddu'r manteision meddygol a chyfyngu ar yr effeithiau seicoweithredol, nid oes unrhyw sicrwydd fod y cymysgedd o gynhwysion gweithredol yr un fath o un cnwd i'r llall. Nid oes amheuaeth—. [Torri ar draws.] Nid un arall, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n brin o amser.
Nid oes dadl ynghylch y manteision enfawr y gall canabinoidau amrywiol eu cynnig ar gyfer trin nifer o gyflyrau. Credaf fod rhaid inni weithio ar ynysu'r cyfansoddion hynny. Yn y DU, rydym yn trwyddedu Sativex, deilliad o ganabis, i drin symptomau sglerosis ymledol. Yn yr Unol Daleithiau hefyd, crëwyd canabinoidau ychwanegol i drin sgil-effeithiau cemotherapi. Rwy'n gobeithio gweld y gwaith hwnnw'n cyflymu.
O ystyried y mathau o niwed posibl a'r sylfaen dystiolaeth gyfyngedig ynglŷn ag effeithiolrwydd ysmygu canabis at ddibenion meddygol, ni allaf gefnogi cyfreithloni canabis meddygol ar hyn o bryd. O'r herwydd, byddaf yn ymatal ar y cynnig heddiw, er y bydd gan yr Aelodau eraill yn fy mhlaid bleidlais rydd ar hyn. Edrychaf ymlaen at ymchwil newydd i'r defnydd meddygol o ganabis, ac os gellir dangos bod y manteision yn gwrthbwyso'r niwed posibl yn sylweddol, buaswn yn hapus i gefnogi ailddosbarthu'r cyffur ar y cam hwnnw. Diolch yn fawr.