Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 17 Ionawr 2018.
Yr wythnos diwethaf yn unig, gofynnais y cwestiwn hwn i'r Gweinidog, ac rwy'n falch iawn ein bod, o fewn wythnos, yn trafod y mater. Mae dros 100,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig yn dioddef o sglerosis ymledol. Ym mis Ionawr 2016, roedd nifer y bobl sy'n dioddef o sglerosis ymledol yng Nghymru yn 4,260, a bob blwyddyn, mae 200 o bobl eraill yn cael diagnosis o'r cyflwr. Nid oes modd rhagweld sut y bydd sglerosis ymledol yn datblygu ac mae'n wahanol i bawb. Mae'n aml yn boenus ac yn flinderus iawn. Yn syml, gall ei gwneud yn amhosibl i ymdopi â bywyd bob dydd. Mae triniaethau ar gael, ond nid ydynt yn gweithio i bawb.
Mewn rhai achosion, gwyddom y gall cyfansoddion canabis helpu i leddfu poen. Yn y Deyrnas Unedig, sglerosis ymledol yw'r unig gyflwr y ceir triniaeth drwyddedig ar ei gyfer yn deillio o ganabis. Mae Sativex ar gael ar hyn o bryd drwy'r GIG yng Nghymru, ond nid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Gwelais fanteision Sativex drosof fy hun yn ddiweddar mewn neges a gefais gan etholwr. Lywydd, rwyf am ddarllen y nodyn gan fy etholwr. Mae'n dweud, 'Rwyf wedi bod yn dioddef o sglerosis ymledol ers 2003. Rwy'n dioddef o sbastigedd, gwayw yn y cyhyrau a phoen, ac rwy'n cymryd morffin a morffin hylif at y pethau hyn bob dydd. Yn bwysicach, rwy'n cymryd Sativex, ac wedi bod yn gwneud hynny er pan oeddwn yn gaeth i'r gwely am chwe mis ychydig flynyddoedd yn ôl. Ni allaf esbonio cymaint o help oedd y cyffur hwn i mi, gan fy mod yn gwneud pob ymdrech i beidio â bod yn fy nghadair olwyn drwy'r amser. Mae'n helpu gyda fy sbastigedd a gwayw yn y cyhyrau, ac ni allaf esbonio cymaint gwaeth oedd hi cyn i mi ddechrau ar y cyffur. O'r blaen, rhoddais gynnig hefyd ar ganabis arferol ac wynebu'r risg o gael fy erlyn, a gallaf gymharu'r ddau, ac yn amlwg, nid yw mor gryf â'r Sativex. Rwyf fi'n bersonol yn ffodus gan fy mod yn ateb y meini prawf. Mae llawer o bobl eraill sy'n dioddef o sglerosis ymledol yn gorfod wynebu'r risg o gael eu herlyn, fel y gwneuthum innau hefyd, pan oeddwn mewn cymaint o boen fel nad oeddwn yn gwybod beth arall i'w wneud. Os ydych mewn poen eithafol am ddigon o amser, rwy'n meddwl ei fod yn torri'r person cryfaf ar ôl rhai blynyddoedd. Felly, cefnogwch y Bil hwn gan nad ydych yn gwybod cymaint o wahaniaeth y gallwch ei wneud i ddioddefwyr sglerosis ymledol yng Nghymru.' Dyna ddiwedd ei neges.
Rwy'n meddwl ei bod yn dweud popeth, Lywydd, ac mae hwn, mi gredaf, yn bwynt hollbwysig. Mae aelodau'r cyhoedd sy'n parchu'r gyfraith yn cael eu gyrru i dorri'r gyfraith er mwyn lleddfu eu poen yn y wlad wâr hon, neu yn y byd gwâr hwn. Mae'n anfoesol tu hwnt. Mae'n bryd caniatáu canabis at ddibenion meddygol. Ar hyn o bryd, ni ellir cael canabis heblaw gan gangiau anghyfreithlon sy'n gwthio cyffuriau caled hefyd. Felly, rydym yn gyrru defnyddwyr cyffuriau meddal i freichiau gwerthwyr cyffuriau caled.
Mae llawer o wledydd eraill, fel yr Almaen a Chanada—fel y mae fy nghyd-Aelodau eisoes wedi crybwyll—wedi caniatáu canabis at ddefnydd meddygol. Yn yr ychydig wythnosau diwethaf, mae hyd yn oed Califfornia yn yr Unol Daleithiau wedi ei gyfreithloni am resymau meddygol. Mae Iwerddon hefyd yn ystyried dilyn y trywydd hwn. Rhaid i Gymru arwain ar hyn, Lywydd. Mae'n bryd lleddfu poen a dioddefaint pobl â sglerosis ymledol yng Nghymru.
Yr wythnos hon, mae gennyf arolwg ar y cyfryngau cymdeithasol, ar y rhyngrwyd—ar Twitter. Y prynhawn yma, 14:30, roedd 70 y cant o fy nilynwyr yn cytuno y dylai canabis gael ei gyfreithloni yng Nghymru. Anghofiwch Lundain a phawb, gwnaethom hyn yn gyfraith yma, ac mae 70 y cant yn nifer dda yn ne-ddwyrain Cymru. Os gwnewch arolwg ar gyfer y wlad gyfan, Cymru, rwy'n eithaf siŵr y gwelwch y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cefnogi caniatáu i ganabis gael ei ddefnyddio ar sail feddygol a lleddfu poen y bobl sy'n cael y cyffur anghyfreithlon, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol ac anfoesol. Dylem eu helpu ym mhob modd. Diolch.