7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Glystyrau Gofal Sylfaenol

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:18 pm ar 17 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Caroline Jones Caroline Jones UKIP 5:18, 17 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Hoffwn ddiolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad i glystyrau gofal sylfaenol. Mae gan glystyrau gofal sylfaenol botensial i drawsnewid y gofal a ddarperir yn ein cymunedau, ond er i ni weld enghreifftiau ardderchog o glystyrau llwyddiannus, ceir amrywiadau mawr yn eu perfformiad. Mynegodd llawer o feddygon teulu eu siom yn y clystyrau. Roedd rhai'n feirniadol iawn. Disgrifiodd un meddyg teulu eu clwstwr fel 'amatur'. Er bod cefnogaeth eang i'r egwyddorion sy'n sail i'r clystyrau, teimlir yn gyffredinol nad ydynt yn cyflawni'r disgwyliadau.

Nododd llawer o dystion y ffaith fod byrddau iechyd lleol yn rhwystro datblygiadau. Caiff cyllid datblygu clwstwr ei reoli gan fyrddau iechyd lleol, a chanfu llawer o'r clystyrau nad oeddent yn gallu defnyddio'r arian yn y ffordd fwyaf effeithiol, oherwydd rheoliadau a rheolau rhy fiwrocrataidd. Clywsom fod oddeutu 90 y cant o'r cyllid yn cael ei ddefnyddio i dalu costau staffio. Clywsom hefyd, dro ar ôl tro, fod rôl y bwrdd iechyd lleol yn dyrannu arian datblygu yn peri oedi ychwanegol diangen cyn cael y cyllid at y clystyrau. Dywedodd Conffederasiwn GIG Cymru wrthym fod yr angen i wario arian erbyn diwedd y flwyddyn yn ei gwneud yn anodd ailgynllunio gwasanaeth, recriwtio, hyfforddi a gwneud newid go iawn, oherwydd anhyblygrwydd a phrinder amser arwain. Fel pwyllgor, teimlem y dylai'r arian fynd yn uniongyrchol i'r clystyrau, ac y dylid ei ddyrannu ar sail tair blynedd er mwyn osgoi penderfyniadau cynllunio byrdymor, nad ydynt yn cynnig y gwerth gorau am arian yn aml. Rwy'n siomedig fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrthod argymhelliad 11, ac rwy'n ei annog i ailystyried.

Daeth yn amlwg i mi, yn ystod yr ymchwiliad hwn, ei fod yn ymwneud â mwy na'r problemau ariannu: roedd byrddau iechyd yn llesteirio gallu'r clystyrau i gyflawni newid gwirioneddol. Galwodd Cymdeithas Feddygol Prydain am fwy o ymreolaeth i glystyrau, ac y dylent fod hyd braich oddi wrth y byrddau iechyd lleol. Rwy'n falch felly fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi derbyn argymhellion 2 a 3, sy'n argymell strwythurau llywodraethu newydd a dirprwyo penderfyniadau i glystyrau.

Wrth gwrs, nid yw'r clystyrau ond yn effeithiol pan fydd ganddynt arweinyddiaeth gyson a chlir. Lle mae clystyrau'n llwyddiannus, dywedodd Cymdeithas Feddygol Prydain wrthym fod hynny'n deillio'n bennaf o ganlyniad i unigolion penodol sydd wedi dangos arweiniad rhagweithiol er gwaethaf cyfyngiadau eu cyfrifoldebau clinigol. Mae'r pwyllgor yn teimlo bod angen amser a lle ar bob gweithiwr proffesiynol perthnasol i gymryd rhan yn ystyrlon. Rydym yn argymell y dylid cael model diwygiedig ac y dylid cyhoeddi'r canllawiau, gan nodi aelodaeth graidd er mwyn sicrhau bod clystyrau'n cynnwys y bobl gywir a bod ganddynt y tîm arweinyddiaeth gorau posibl. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi nodi y cynhelir gweithdy y mis nesaf i ddwyn ynghyd y trefniadau llywodraethu arfaethedig. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi gofyn am newid dyddiad y gweithdy i alluogi meddygon teulu i'w fynychu. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet roi gwybod inni a yw hynny'n bosibl.

Mae pob un ohonom yma eisiau i glystyrau gofal sylfaenol lwyddo. Fel yr amlygodd yr adolygiad seneddol, bydd dyfodol gofal yn canolbwyntio mwy ar ofal sylfaenol yn hytrach na gofal eilaidd, felly mae'n bwysig ein bod yn gwella darpariaeth iechyd a gofal yn ein cymunedau lleol. Mae gan glystyrau rôl bwysig i'w chwarae'n cyflawni'r gwelliannau a'r newid. Mae ein pwyllgor wedi gwneud 16 o awgrymiadau ar gyfer gwella rôl a gweithrediad clystyrau gofal sylfaenol, ac anogaf Lywodraeth Cymru i ailystyried a derbyn pob un o'n hargymhellion. Diolch. Diolch yn fawr.