Part of the debate – Senedd Cymru am 5:13 pm ar 17 Ionawr 2018.
Rwy'n aelod o'r pwyllgor, felly roeddwn yn falch iawn o gymryd rhan yn yr ymchwiliad hwn, ac yn fy marn i, yn unol â barn y pwyllgor rwy'n credu, a'r rhan fwyaf o'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni, mae'r egwyddor o glystyrau yn un da iawn, ac mae egwyddor gwaith rhyngddisgyblaethol yn rhagorol. Ond credaf ein bod i gyd yn teimlo bod llawer mwy o waith i'w wneud i sicrhau bod y clystyrau'n fwy effeithiol, a cheir llawer o faterion sydd angen eu datrys.
Uchafbwynt yr ymchwiliad i mi oedd y grŵp ffocws yng Nghaerfyrddin, a drefnwyd yn fedrus gan Angela Burns, lle y cawsom gyfle i glywed yn uniongyrchol am y materion a oedd o bwys i'r cyfranogwyr yno a'r rhwystredigaethau a'u hwynebodd yn y grwpiau clwstwr. Wrth gwrs, soniodd y Cadeirydd yn ei gyfraniad am y cyfarfod amser cinio a gawsom gyda'r gweithwyr proffesiynol yma heddiw cyn yr adroddiad hwn, ac yn y cyfarfod hwnnw, fe'm trawyd yn fawr gan frwdfrydedd y cyfranogwyr tuag at wneud gwaith da yn y gwasanaeth iechyd ac i wneud ymrwymiad mawr. Credaf fod hynny wedi'i gyfleu yn wirioneddol gryf heddiw, a chredaf eu bod i gyd, mewn egwyddor, yn cefnogi'r clystyrau, ond roeddent yn awyddus iawn i nodi'r ffyrdd ymarferol iawn y gellid gwella'r clystyrau a'r ffyrdd y gallem symud ymlaen.
Yn amlwg, un o'r materion allweddol hynny yw cyllid, ac mae Aelodau a siaradodd yn gynt wedi nodi materion yn ymwneud ag ariannu, ond credaf yn bendant fod rhywfaint o densiwn rhwng y byrddau iechyd lleol a'r cyllid i'r grwpiau clwstwr. Rwy'n credu bod hynny wedi cael sylw yn yr adroddiad hefyd, a chredaf fod Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dweud eu bod yn ymwybodol o oedi sylweddol cyn rhyddhau'r cronfeydd hyn. Ac mae yna achos hefyd dros ddyrannu'r arian datblygu clwstwr yn uniongyrchol i'r clystyrau yn hytrach nag i'r byrddau iechyd. Felly, yn ogystal â mater y cyllid blynyddol, rwy'n gobeithio y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn edrych ar y materion hyn, gan fod y brwdfrydedd yn fawr, ac rwy'n credu bod angen inni ei wneud mor hawdd ag sy'n bosibl i'r clystyrau ddatblygu.
Mae'r gwaith amlddisgyblaethol i'w groesawu'n fawr, ac un o'r trafodaethau diddorol iawn yn y grŵp ffocws yng Nghaerfyrddin oedd sut nad oedd y cleifion yn gallu gweld y meddyg teulu yn y ffordd yr arferent allu gwneud, ac i rai cleifion oedrannus a oedd wedi arfer gweld meddyg teulu ac a oedd wedi arfer gweld yr un meddyg teulu bob tro, mae'n newid go fawr yn ddiwylliannol i weld y nyrs yn lle hynny, neu i weld gweithiwr proffesiynol arall perthynol i iechyd sy'n fwy priodol ar gyfer eu hanghenion. Yn amlwg, rwy'n credu mai gallu gweld yr unigolyn mwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion yw'r peth allweddol o ran gwaith amlddisgyblaethol. Wrth i gleifion arfer yn raddol â'r ffordd hon o weithredu, credaf y bydd yn ffordd effeithiol iawn o weithredu, a bydd y claf yn gweld y person mwyaf perthnasol. Mae cyfle yma hefyd, rwy'n credu, oherwydd mae cleifion yn hoffi parhad, ac maent yn hoffi gweld yr un person, ac nid oes unrhyw reswm na all hynny olygu gweithiwr proffesiynol perthynol i iechyd sy'n eu gweld yn rheolaidd. Gallai olygu'r un person.
Roeddwn am sôn yn gyflym am fy mhrofiad yn yr etholaeth. Yn sicr, yn yr ymchwiliad hwn, mae ofnau ynghylch prinder meddygon teulu ac anawsterau i ddod o hyd i feddygon teulu yn lle rhai sy'n gadael wedi codi eu pen ym mhobman, ac rydym wedi cael profiad anodd yng Ngogledd Caerdydd lle caeodd un o'r meddygfeydd lleol mewn gwirionedd. Yr hyn a ddigwyddodd oedd bod partneriaid presennol practis Llwynbedw yn Birchgrove a Cathedral View yng Ngogledd Llandaf wedi hysbysu ynglŷn â'u bwriad i derfynu'r contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan roi chwe mis o rybudd. Roedd y bwrdd iechyd yn methu sicrhau grŵp arall o feddygon teulu i gymryd y practis, ac ni chynigiodd practis unigol ei gymryd. Felly, roedd y ddau adeilad yn eiddo i'r meddygon teulu—y meddygon teulu presennol. Mae un o'r rheini'n cael ei werthu. Ond mae hyn wedi cael effaith ddigalon iawn ar lawer o fy etholwyr sydd wedi cysylltu â mi, gan ei fod wedi arwain at darfu ar batrwm y gofal iechyd roeddent wedi arfer ei dderbyn. Mynychais gyfarfod grŵp clwstwr yng Ngogledd Caerdydd, a gwn fod y meddygon teulu yn y grŵp clwstwr hwnnw'n teimlo y dylai fod wedi bod yn bosibl atal yr aflonyddu hwn ar gleifion, a dylai fod rhyw ffordd o sicrhau na châi'r cleifion hyn—gyda llawer ohonynt yn oedrannus—eu hamddifadu am na allent fynd i'r feddygfa y buont yn ei mynychu dros lawer o flynyddoedd. Ac mae wedi arwain at lwyth achosion trymach o lawer i feddygfeydd eraill.
Felly, rwy'n credu bod y grwpiau clwstwr yn ffordd ragorol ymlaen sy'n rhoi cyfle i rannu arbenigedd, er mwyn cyflwyno'r gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, ac yn y cyfarfod amser cinio heddiw, roeddwn yn eistedd wrth ymyl yr unig nyrs sy'n arwain grŵp clwstwr. Un nyrs yng Nghymru sy'n arwain grŵp clwstwr, ond gobeithiwn y bydd hwnnw'n batrwm a allai ddigwydd mewn sawl man arall.