Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:36 pm ar 23 Ionawr 2018.
Er eich bod chi’n sôn am ba mor bwysig yw argaeledd ffonau symudol, dim ond newydd gyrraedd Pen Llŷn a Mynydd Rhiw y mae 4G, er enghraifft. Mae rhai ardaloedd ar ei hôl hi yn ddifrifol yng nghefn gwlad Cymru. Un o’r pethau sy’n cael ei anghofio amdano yn aml iawn yw pa mor bwysig fydd y ffôn symudol ar gyfer awtomeiddio ar ffermydd a robotics. Mae’n dod nawr eich bod chi’n gallu rheoli peirianwaith ar fferm, a phethau megis teilwra a phethau felly, drwy system ffôn a signal ffôn—nid y ffôn symudol ei hunan ond y signal ffôn yna. A ydych chi’n mynd i wneud yn siŵr, felly, fod hynny ar gael wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd—bod y dechnoleg orau ar gael ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig ar gyfer ein hamaethwyr ni?