Mawrth, 23 Ionawr 2018
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog. A'r cwestiwn cyntaf, Darren Millar.
1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i wella'r seilwaith yng ngogledd Cymru? OAQ51601
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd signal ffonau symudol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ51634
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am weithredu systemau talu heb arian parod ar gyfer prydau ysgol? OAQ51615
4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau i ddisodli Canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc a gyhoeddwyd yn 2012? OAQ51636
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gwasanaethau a ddarperir i bobl Powys gan Shropdoc? OAQ51594
6. A wnaiff y Prif Weinidog sefydlu uned i archwilio i sut y gall Cymru wneud defnydd o ddeallusrwydd artiffisial ac awtomeiddio? OAQ51639
7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cyflwyno credyd cynhwysol yng Nghymru? OAQ51608
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynaliadwyedd gwasanaethau bysiau presennol yng Nghymru? OAQ51635
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rydw i'n galw ar arweinydd y tŷ, Julie James.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cynnydd ar y gronfa driniaeth newydd. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros...
Symudwn ymlaen at ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â Thrafnidiaeth Cymru, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth,...
Symudwn ymlaen at eitem 5, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig ynglŷn â'r diwydiant bwyd a diod, a galwaf ar Lesley Griffiths, Ysgrifennydd...
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Gweinyddu) 2018, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i gyflwyno'r cynnig hwnnw—Mark Drakeford.
Yr eitem nesaf yw’r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2018. Rydw i'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd i wneud y cynnig. Hannah Blythyn.
Yr eitem nesaf yw'r ddadl ar adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon i wneud y cynnig. Dafydd Elis-Thomas.
Sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro cymorth sy'n canolbwyntio ar y plentyn i blant ag anghenion dysgu ychwanegol?
Senedd Cymru (Saesneg: Welsh Parliament) neu'r Senedd yw'r corff datganoledig sy'n cael ei ethol yn ddemocrataidd i drafod polisïau ac sy'n cymeradwyo deddfwriaeth sy'n ymwneud â Chymru. Rhan o'i waith yw dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif. Rhwng mis Mai 1999 a mis Mai 2020, enw'r sefydliad oedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Saesneg: National Assembly for Wales). – Wicipedia