Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:32 pm ar 23 Ionawr 2018.
Rwy'n edrych ar fap o fy mlaen i yn y fan hyn o'r pwyntiau gwefru ceir trydan ar draws Prydain. Ac rydym yn gweld ar draws gogledd Cymru mor dila ydy'r ddarpariaeth o fannau pwyntiau gwefru cyflym. Rydw i'n edrych ymlaen am y chwyldro mewn defnydd o geir trydan, ond nid ydy'r chwyldro yna am allu digwydd heb fod y Llywodraeth wirioneddol yn dangos uchelgais ac yn rhoi strategaeth mewn lle er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n paratoi'r isadeiledd ar gyfer y chwyldro yna. Lle mae'r arwyddion gan y Llywodraeth eich bod chi'n cymryd hyn o ddifrif?