Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 23 Ionawr 2018.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, a gwn fod y Llywodraeth yn rhoi blaenoriaeth uchel i wella cysylltedd yng nghefn gwlad. Ond rwy'n siŵr y byddai'n cytuno â mi bod llawer mwy i'w wneud o hyd. Ceir problem sylweddol o bosib gyda diffyg signal ffôn symudol o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Mae etholwr wedi ysgrifennu ataf i o Lan-non yng Ngheredigion, sydd â phedwar bws yn unig i Aberaeron ar ddydd Sul, i ddweud ei fod yn aros am y bws 11:27 yn ddiweddar, ac na chyrhaeddodd. Ar y wefan, rydych chi'n cael eich annog, wrth gwrs, i edrych ar y wefan i ganfod newidiadau i amserlenni ac oediadau, ond ni allai wneud hynny, oherwydd—