Signal Ffonau Symudol

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:34 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:34, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, nid oes neb yn mynd i esgus bod signal ffôn symudol yn hollol gyffredinol, mewn llawer o rannau o Gymru. Rwy'n byw yng nghanol tref ac ni allaf gael signal ffôn symudol yn fy nhŷ i. Felly, rydym ni'n gwybod bod her i'r diwydiant—nid yw hyn wedi ei ddatganoli wrth gwrs—i wneud yn siŵr ei fod yn ymestyn cwmpas y signal, fel mewn gwledydd eraill erbyn hyn. Beth ydym ni'n ei wneud fel y Llywodraeth? Wel, mae'r cynllun gweithredu symudol wedi hen gychwyn, ac mae cynnydd da yn cael ei wneud. Rydym ni'n gweithio ar hyn o bryd i ddiffinio cymhwysedd ar gyfer cymorth ardrethi busnes ar gyfer safleoedd mastiau newydd, a gwn fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi penodi Pwynt Arloesi i gynghori, ysgogi a chyd-drefnu gweithgarwch 5G yng Nghymru, gan gynnwys cyfleoedd i sicrhau cyllid o gronfa her profion a threialon Llywodraeth y DU.