Canllawiau ar gyfer Gofal Parhaus i Blant a Phobl Ifanc

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hefin David Hefin David Labour 1:55, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch iawn bod y grŵp gorchwyl a gorffen wedi cael ei sefydlu. Dyma'r ddogfen. Mae Aelodau Cynulliad etholaethol, ac Aelodau Cynulliad rhanbarthol rwy'n siŵr, yn cael llawer o bobl sy'n pryderu am y cyfnod pontio o fod yn blentyn i fod yn oedolyn i'r plant hynny sydd angen gofal iechyd parhaus. Mae'r ddogfen hon yn gyfrifol am ganllawiau i blant. Mae'r ddogfen hon, dogfen ar wahân, yn gyfrifol am ganllawiau ar fod yn oedolyn. Mae'r ddogfen i blant yn dweud y dylai cymhwysedd ar gyfer GIP oedolion yn 17 oed gael ei benderfynu gan dimau amlasiantaeth, amlddisgyblaeth, tra bod y ddogfen hon yn dweud y dylai'r un peth gael ei gymeradwyo gan fyrddau iechyd lleol. Felly, ceir anghysondebau amlwg rhwng y ddwy ddogfen, ac nid dyna'r unig un. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn nid yn unig bod y canllawiau hyn yn cael eu hadolygu, ond hefyd y canllawiau hyn, ar y cyd, a bod rhanddeiliaid eraill y tu hwnt i'r byrddau iechyd yn cymryd rhan, gan gynnwys y comisiynydd plant.