Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 23 Ionawr 2018.
Dyna rydym ni eisiau ei wneud, ond mae gan Shropdoc, cofiwch, ei broblemau ariannol ei hun, a dyna'r rheswm pam mae'r sefyllfa hon wedi codi. Un o'r pryderon hefyd yw y bydd y ddau grŵp comisiynu clinigol o Loegr sy'n comisiynu Shropdoc ar hyn o bryd yn aildendro yn ystod 2018 ac, wrth gwrs, mae'n bwysig bod y ddwy ochr i'r ffin yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn comisiynu gwasanaethau newydd. Ond nid yw hon yn sefyllfa lle mae'r bwrdd iechyd wedi dewis bod mewn sefyllfa lle maen nhw eisiau cael gwared ar Shropdoc, os gallaf ei roi felly. Oherwydd heriau ariannol Shropdoc y mae'r sefyllfa wedi codi. Ond mae pawb eisiau bod mewn sefyllfa lle mae'r gwasanaeth o leiaf gystal â'r gwasanaeth sy'n bodoli ar hyn o bryd.