Ddeallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lee Waters Lee Waters Labour 2:02, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y cynllun gweithredu economaidd newydd yn cynnwys, fel un o'r meini prawf ar gyfer cynorthwyo busnesau newydd, addasu i awtomeiddio, ond mae goblygiadau awtomeiddio yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny. Amcangyfrifir bod tua 700,000 o swyddi mewn perygl, ac maen nhw'n taro ar bob un portffolio. Felly, a wnewch chi ystyried nawr sut y gallwch chi gydgysylltu ymdrechion trwy sefydlu uned i archwilio cyfleoedd fel y gallwn ni gynorthwyo'r bobl sy'n mynd i gael eu heffeithio gan awtomeiddio ac i archwilio'r cyfleoedd i Gymru hefyd?