2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie James Julie James Labour 2:49, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

O ran y cwestiwn cyntaf a ofynnodd Julie Morgan, rwyf innau hefyd wedi cyfarfod â Dr Edward Gomez, ac mae e'n astroffisegwr brwdfrydig iawn. Mae'r llyfrau comic yn rhagorol a byddaf yn trafod gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg sut y gallwn wneud defnydd gwell o gyfleusterau o'r fath, naill ai yn bersonol neu drwy Hwb, sydd bellach yn ymestyn allan i tua 70 y cant o ysgolion Cymru. Cefais gyfarfod brwdfrydig iawn gydag ef ynghylch sut y gallem ddatblygu hynny, ac maen nhw'n adnoddau gwych yn wir.

Mae'r Aelod yn llygad ei lle: mae'n rhaid inni gael ffordd o ddenu mwy o blant i gael diddordeb mewn gyrfa o'r fath ym myd gwyddoniaeth, yn enwedig merched. Mae gennym  amrywiaeth o bethau ar waith, ond mae gan Dr Gomez y gallu arbennig i danio brwdfrydedd plant iau a gwneud pwnc cymhleth iawn yn gwbl dryloyw ac yn wirioneddol ddiddorol. Felly, roeddwn i o'r farn fod ei ddull ef o wneud hynny'n wirioneddol ardderchog a bydd yn sicr yn dwyn hynny'n ei flaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg.

Rwy'n dal i gadeirio Bwrdd menywod yn STEM ar gyfer Llywodraeth Cymru, felly byddaf yn edrych ar y mater yno o ran sut mae modd ennyn diddordeb merched mewn rhai o'r pynciau gwyddoniaeth sy'n fwy damcaniaethol hefyd. Mae e'n ddyn diddorol iawn i'r rhai ohonoch chi sydd efallai heb gwrdd ag ef; mae ganddo sgwrs ddiddorol.

O ran y teithio llesol, mae hynny'n bwysig iawn mewn gwirionedd. Mae'r holl fater ynghylch seiclo yn fodd o deithio yn hytrach na defnydd hamdden yn eithriadol o bwysig. Mae'r Aelod yn codi pwyntiau da iawn am barodrwydd y sefydliadau mwy o faint hynny o ran cyfleusterau i gadw beiciau yn ddiogel a hefyd gyfleusterau newid ac ati a bod yn barod i'r  gwaith. Rydym yn gweithio'n galed iawn gydag awdurdodau lleol ledled Cymru i wella teithio llesol drwy gyllid buddsoddi cyfalaf. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud cyhoeddiad maes o law am ganlyniad rhai o'r trafodaethau hynny a'r buddsoddiad hwnnw, gyda'r union bwynt y mae'r Aelod yn ei godi dan sylw. Nid oes a wnelo hyn â seiclo am hwyl; mae'n ymwneud â beicio fel modd o deithio o un lle i'r llall mewn ffordd iach a chynaliadwy. Ac mae'n arbennig o bwysig yn ein dinasoedd mawr ein bod yn annog hynny o ran y ddadl ansawdd aer yr ydym wedi bod yn ei chael yn ddiweddar hefyd.

Roeddwn am godi un pwynt arall, sef bod problem wirioneddol ynghylch anabledd ar gyfer beicio hefyd. Mae sefydliad gwych yn fy etholaeth i fy hunan, os gwnaiff y Llywydd faddau i mi, o'r enw BikeAbility. Mae'n gyfleuster ardderchog iawn ar gyfer pobl ag anableddau corfforol a fydd hefyd yn gallu bod yn egnïol ar eu beiciau, ac mae'n bwysig fod cyflogwyr yn rhoi ystyriaeth i hyn hefyd wrth ddylunio'r cynlluniau hyn.