2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Part of the debate – Senedd Cymru am 2:43 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 2:43, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf i alw am ddau ddatganiad gan arweinydd y tŷ, y cyntaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar berfformiad adrannau achosion brys ledled Cymru? Mae'r ffigurau diweddaraf, wrth gwrs, yn sobor o wael, yn wir ichi. Yn anffodus, unwaith yn rhagor, y bwrdd iechyd a gaiff ei redeg ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru sy'n perfformio waethaf o'r holl fyrddau iechyd yng Nghymru yn erbyn y targed pedair awr. Mewn gwirionedd, dim ond pedair siawns o bob 10 sydd gennych o fynd i mewn ac allan o'r adran honno dros y targed pedair awr. Yn amlwg, mae hyn yn annerbyniol i'r cannoedd o gleifion yn fy etholaeth i ac mewn mannau eraill o'r gogledd sy'n gorfod dioddef y cyfnodau hirfaith hynny mewn adrannau achosion brys prysur iawn. Felly, rwy'n credu ei bod yn angenrheidiol inni gael datganiad ar berfformiad adrannau achosion brys, yn arbennig o ystyried y sefyllfa, yr argyfwng, sy'n amlwg yn datblygu mewn rhai o'n hysbytai.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad, gennych chi, mae'n debyg, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gymunedau ffydd? Yn amlwg, clywais eich sylwadau ynglŷn â Diwrnod Cofio'r Holocost. Cefais y fraint o fod yn bresennol mewn digwyddiad yn Llandudno i goffáu'r Holocost dros y penwythnos a gwrando ar Dr Martin Stern, un a wnaeth oroesi'r Holocost. Roedd ganddo stori rymus ac ysgytiol iawn i'w rhannu wrth iddo draddodi ei brofiadau yn ystod yr Holocost a phrofiadau rhai o blith ei deulu. Yn amlwg, mae goroeswyr yr Holocost yn lleihau yn eu nifer. Rwy'n arbennig o awyddus i wybod, Ysgrifennydd y Cabinet, pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hysbysu cymaint o bobl ifanc â phosibl am yr hanesion uniongyrchol hynny gan oroeswyr yr Holocost tra bod gennym bobl gyda ni o hyd sydd yn gallu dweud eu hanesion yn uniongyrchol wrthym. Gwn fod y Llywodraeth wedi gwneud gwaith da ar hyn yn y gorffennol ac wedi cefnogi pobl ifanc i ymweld â mannau fel Auschwitz a chymryd rhan mewn digwyddiadau i goffáu'r Holocost. Ond nid oes dim byd yn debyg i gyfarfod â rhywun sydd wedi goroesi'r Holocost a gwrando ar ei hanesion yn uniongyrchol i drawsnewid ffordd o feddwl pobl am yr Holocost ac i ymdrin â'r broblem gynyddol sydd gennym drwy'r byd gyda'r rhai sy'n gwadu'r Holocost.