Part of the debate – Senedd Cymru am 2:54 pm ar 23 Ionawr 2018.
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ond mae'n ymwybodol iawn nad yw materion tramor wedi cael eu datganoli i ni. Gwnaeth y Prif Weinidog ddatganiad o'i gydymdeimlad â phobl gwlad Belg ac rwy'n siŵr y buasai'n gwneud rhywbeth tebyg i bob un drwy'r byd yr effeithir arno gan derfysgaeth. Mae'r Aelod wedi gwneud ei bwynt yn huawdl iawn, ac rwy'n siŵr fod y Cynulliad wedi'i glywed.