Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 23 Ionawr 2018.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n croesawu’r cyfle hwn heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am nifer o ddatblygiadau gyda Thrafnidiaeth Cymru. Sefydlwyd Trafnidiaeth Cymru yn 2015 fel cwmni perchnogaeth lwyr, dielw i ddarparu cymorth ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru mewn cysylltiad â phrosiectau trafnidiaeth yng Nghymru. Fy nyhead i, fodd bynnag, ar gyfer Trafnidiaeth Cymru yw y dylai ddatblygu a chymryd amrywiaeth lawer ehangach o swyddogaethau trafnidiaeth, yn debyg o ran ei natur i weithrediadau Transport for London.
Yn draddodiadol, mae gwahanol fathau o drafnidiaeth wedi cael eu hystyried ar wahân, â pholisïau ar wahân, cyllid ar wahân a darparwyr ar wahân. Er bod hyn yn adlewyrchu, o bosibl, sut mae'r diwydiant yn gweithredu, nid yw'n adlewyrchu’r ffordd y mae pobl yn meddwl am eu teithiau. Wrth gynllunio sut i gymudo i'r gwaith neu fynd ar daith hir, mae pobl yn meddwl am gost, cyfleustra a chymhlethdod y daith gyfan o ddrws i ddrws.
I gynnal a gwella gwasanaethau mewn byd sy'n newid, lle mae’r blaenoriaethau’n heriol, mae angen ystyried trefniadau cyflawni arloesol ar gyfer swyddogaethau trafnidiaeth, gan gynnwys rhai a allai gynhyrchu ffrydiau incwm allanol. Mae 'Symud Cymru Ymlaen', 'Ffyniant i Bawb' a'r cynllun gweithredu economaidd yn nodi bod angen sbarduno newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn deall, y ffordd yr ydym yn cynllunio, a'r ffordd yr ydym yn defnyddio trafnidiaeth ac yn buddsoddi ynddo yma yng Nghymru.
Ynghyd â’r gwell setliad datganoledig a gynigiwyd drwy Ddeddf Cymru 2017, bydd Llywodraeth Cymru yn sefydlu fframwaith i ddarparu gwasanaethau trafnidiaeth a all wella ansawdd y rhwydwaith, amlder, dibynadwyedd a phrydlondeb, a darparu trafnidiaeth gyhoeddus fwy integredig â llai o allyriadau carbon. Drwy ddefnyddio'r pwerau newydd ar gyfer y rheilffyrdd sydd hefyd yn cael eu datganoli, mae nawr yn haws nag erioed inni sicrhau bod pobl yn ganolog i bolisïau trafnidiaeth yma yng Nghymru, fel y gallwn ddarparu system drafnidiaeth ddiogel, effeithlon, cost-effeithiol a chynaliadwy er budd y wlad gyfan.
Mae’r cynllun gweithredu economaidd yn ymrwymo y bydd Trafnidiaeth Cymru yn gweithio gyda thimau rhanbarthol newydd Llywodraeth Cymru, yr awdurdodau trafnidiaeth ranbarthol newydd, a phartneriaid i greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, sy'n cynnwys y rhwydweithiau rheilffyrdd a bysiau. Gan ddilyn model llwyddiannus caffael Maes Awyr Caerdydd, ein nod yw y bydd mwy o’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn eiddo i Drafnidiaeth Cymru, neu’n cael ei weithredu ganddynt, yn uniongyrchol.