Part of the debate – Senedd Cymru am 4:09 pm ar 23 Ionawr 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n croesawu eich sylwadau bod pobl yn ganolog i gyflawni polisi trafnidiaeth. Yn fy etholaeth i, ceir dadl ynghylch pa un a cysylltiadau bws neu trên fyddai’n gwasanaethu un gymuned leol orau o dan unrhyw gynllun metro yn y dyfodol. Pa fecanweithiau a fydd wedi’u cynnwys er mwyn ymgynghori â chymunedau, fel y gellir llunio gwasanaethau i fodloni anghenion a gofynion pobl leol?