Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 23 Ionawr 2018.
A gaf i roi ar y cofnod fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am eu gwaith yn ystyried y rheoliadau hyn? Cânt eu gwneud o dan adrannau 17, 54 a 93 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017, ac mae'r ddau yn ymwneud â gweinyddu'r dreth honno.
Mae'r rheoliadau yn cwmpasu dau brif faes. Mae rhan 2 yn nodi'r gofynion ychwanegol i'r rhai hynny sydd yn y Ddeddf y mae'n rhaid eu bodloni er mwyn i ronynnau gwastraff mân fod yn gymwys ar gyfer y gyfradd dreth is. Darnau bach o ddeunydd sy'n cael eu cynhyrchu gan broses trin gwastraff sy'n cynnwys triniaeth fecanyddol yw gronynnau gwastraff mân. Mae gofynion sydd wedi'u cynnwys yn y rheoliadau yn cynnwys cynnal prawf colled wrth danio ar ronynnau gwastraff mân, yn ogystal â'r trefniadau ar gyfer gwneud hynny. Maen nhw'n rhoi pwerau i alluogi Awdurdod Refeniw Cymru i nodi manylion y gofynion hyn mewn hysbysiad y gellir ei orfodi yn gyfreithiol, ac os caiff y rheoliadau hyn eu cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol y prynhawn yma, byddan nhw'n helpu gweithredwyr tirlenwi i benderfynu ar y swm cywir o dreth daladwy.
Mae rhan 3 yn nodi credyd ansolfedd cwsmeriaid. Mae hyn yn rhoi hawl i gredyd treth i weithredwyr safleoedd tirlenwi pan fo eu cwsmeriaid yn mynd yn fethdalwyr cyn talu'r gweithredwr am gynnal gwarediad trethadwy. Bydd aelodau'r Pwyllgor Cyllid yn cofio, o'u hystyriaethau, fod hwn yn fater dadleuol iawn yn ystod hynt y Ddeddf, gyda gwahanol ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn hyrwyddo agweddau gwahanol iawn: rhai yn dadlau o blaid diddymu'r credyd treth yn llwyr, ac eraill o blaid lefel hael iawn o gadwraeth.
Fel y mae hi, mae'r rheoliadau sydd gerbron y Cynulliad heddiw yn dilyn yn fras y dull a fabwysiadwyd yn yr Alban. Maen nhw'n cadw credyd treth yn y maes hwn, ond yn cyfyngu'r amodau sy'n arwain at yr hawl. Dim ond pan fo cwsmeriaid y gweithredwr yn mynd yn fethdalwyr y mae'r credyd ar gael o dan y rheoliadau hyn. Prif nod y rheoliadau yw diogelu refeniw, ac yna darparu sefydlogrwydd i weithredwyr.