8. Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:35 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 5:35, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Credaf fod peth dryswch yma rhwng y ddau ohonom. Roeddwn i'n siarad mewn termau ariannol. Gofynnaf y cwestiwn hwn: petai Llywodraeth Cymru yn terfynu'r cyllid yfory, a fyddai'r amgueddfeydd yn parhau, neu a fydden nhw'n cael eu gorfodi i gau eu drysau? Os ydyn nhw'n dibynnu'n llwyr, neu'n dibynnu’n sylweddol, ar Lywodraeth Cymru yn weithredol, mae'r OCS rwy'n siŵr yn eu dosbarthu'n gyrff o dan reolaeth Llywodraeth Cymru.

Un o'r pethau yr wyf wedi dadlau yn eu herbyn drwy gydol fy amser yn y Cynulliad yw contractau camfanteisiol: contractau dim oriau, contractau hyblyg oriau bychain, oriau blynyddol, staff asiantaeth—nid oes diwedd ar ffyrdd o drin pobl yn wael. Rwy'n credu hefyd y dylid talu'r cyflog byw i bawb. Mae staff yr amgueddfa yn haeddu peidio â bod ar drugaredd yr arferion cyflogaeth hyn. Rwy'n falch bod Mr Thurley yn cydnabod ansawdd uchel safleoedd yr amgueddfa ac effaith llawer ohonyn nhw ar eu cymunedau, o ran presenoldeb amgueddfa yn yr ardal a darparu ffynhonnell reolaidd o waith mewn ardaloedd lle mae gwaith yn aml yn brin.

Mae mynediad am ddim i amgueddfeydd wedi bod yn bolisi hirhoedlog gan y Blaid Lafur yng Nghymru. Peidiwch ag eithrio pobl rhag dysgu am eu hanes oherwydd pris. O ran codi tâl, nid wyf yn gwrthwynebu codi tâl am arddangosfeydd penodol, gydag amodau bod yn rhaid i unrhyw beth sy'n ymwneud â Chymru fod yn rhad ac am ddim. Nid wyf yn credu y dylai pobl Cymru orfod talu i weld eu hanes eu hunain. Hefyd, ni ddylai fod yn ffordd lechwraidd o godi tâl am fynd i mewn i'r amgueddfa. Credaf fod yr adroddiad yn gywir yn yr adran olaf sy'n rhoi sylw i'r angen am sefydlogrwydd ariannol i'r amgueddfa ac eglurder ynglŷn â'i sefyllfa ariannu dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yn ychwanegol at y meysydd a amlinellwyd, rwyf hefyd yn ychwanegu bod yr amgueddfa yn dal wrthi'n trafod cynnig tâl 2017-19 gyda'r undebau llafur. Mae angen i unrhyw setliad ariannol ystyried y costau sy'n gysylltiedig â hyn a sicrhau cyfnod o sefydlogrwydd i'r sefydliad yn y dyfodol.

Mae'r amgueddfa mewn adeg dyngedfennol lle gall symud ymlaen gyda model wedi'i ariannu'n dda sy'n ceisio trafod â'i staff a'u hundebau llafur cydnabyddedig, a darparu gwasanaeth o'r radd flaenaf gan bobl broffesiynol a brwdfrydig, sy'n gallu cyflawni ar gyfer cymunedau a phobl Cymru. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp llywio Cymru Hanesyddol wedi datblygu syniadau a rhaglenni y mae'n gobeithio y byddant yn adeiladu ac yn datblygu model o'r fath, sy'n cynnwys yr undebau llafur cydnabyddedig yn y broses. Credaf y dylid ystyried unrhyw argymhellion gan y grŵp hwn ac na ddylai'r adroddiad fod yn faen tramgwydd i'r gwaith. Credaf ei bod yn bwysig, ac rwy'n mawr obeithio, er lles dyfodol y staff a'r sector diwylliannol yng Nghymru, fod Llywodraeth Cymru a rheolwyr yr amgueddfa yn ystyried y dewis hwnnw fel ffordd o'i ddatblygu. 

Os caf i ddychwelyd at yr hyn yr oeddwn i'n sôn yn gynharach amdano ynglŷn â'r agwedd ariannol, hwyrach fod gennych chi pa reolau bynnag sydd gennych chi, a pha siarteri bynnag sydd gennych chi, ond o ble mae'r arian yn dod? Mae yna lawer o sefydliadau ledled Cymru—maen nhw eisiau arian gan y sector cyhoeddus, ond maen nhw eisiau rhedeg eu sefydliadau fel petaen nhw'n rhan o'r sector preifat. Dyna un o'r pethau—[Torri ar draws.] Os gwelwch yn dda, ie.