8. Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 23 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 5:53, 23 Ionawr 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar iawn i Mike am roi gwersi inni mewn gweinyddiaeth gyhoeddus a hynny mewn ffordd mor ddeniadol a diddorol, ac mae hynny i fod yn air o ganmoliaeth.

Rydym yn sicr yn anelu at sefydlogrwydd ariannol ac, yn wir, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ein bod yn ceisio sicrhau gallu ariannol priodol, ac mae'n rhaid i hynny gynnwys diwallu'r angen am gydnabyddiaeth ariannol effeithiol. Byddwn yn dweud, o ran egwyddor, fy mod i'n cytuno â tharged mwy hirdymor o gael cyfatebiaeth rhwng cyflog ac amodau y bobl sy'n gweithio i ni yn y sector amgueddfeydd a'r rhai sy'n gweithio i ni mewn meysydd eraill o'n gwasanaethau cyhoeddus. Mae hynny'n rhywbeth y mae angen inni roi sylw iddo. 

Rwy'n ddiolchgar iawn i Gareth Bennett am ei sylwadau hael, a gallaf ei sicrhau nad oes unrhyw fwriad i ddechrau codi tâl ar oedolion ac nid codi tâl ar ddinasyddion iau. Mae angen inni ystyried teuluoedd sy'n ymweld â'r amgueddfa yn uned gyfan.

O ran enwau, roedd  'Welsh folk museum' wastad yn fy atgoffa i o rywbeth mwy gwerinol na hyd yn oed yr enw 'amgueddfa werin', er y gwelaf, wrth imi deithio o amgylch y rhan honno o orllewin Caerdydd, mai'n araf deg y bydd yr arwyddion brown yn arddel yr enw diweddaraf. Heb os, bydd hynny'n digwydd yn y dyfodol.

A gaf i nawr ddiolch yn gyhoeddus i Julie Morgan am ei swyddogaeth, yr wyf bellach wedi dysgu mwy amdani, yn sicrhau gwell perthynas gyda'r Llywodraeth a gwell perthynas rhwng y Cynulliad hwn, drwy ei grŵp trawsbleidiol PCS, a'r undebau llafur, ac, yn wir, gyda rheolwyr amgueddfeydd pan oedd yr anawsterau yr ydym ni i gyd wedi cyfeirio atyn nhw yn bodoli? Yn wir, fy nymuniad i, cymaint â'i un hithau, yw nad ydym yn gweld hynny'n cael ei ailadrodd.

Fel y dywedaf, rydym yn ceisio sicrhau bod lefel gyson o gyllid ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n sicr y bydd graddau'r gefnogaeth a welir yn y ddadl hon heddiw yn cryfhau ein perthynas â'r amgueddfa.