Part of QNR – Senedd Cymru ar 23 Ionawr 2018.
Rŷm ni o blaid parhau i fod â rhan lawn yn y farchnad sengl ar ôl Brexit. Gellid cyflawni hynny naill ai drwy fod yn rhan o EFTA/EEA neu drwy ‘bartneriaeth ddofn ac arbennig’. I gyflawni hynny, mae’n debyg y bydd angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ailystyried rhai o’r ‘llinellau coch’ y soniwyd amdanynt yn araith y Prif Weinidog yn Lancaster House.