– Senedd Cymru am 6:48 pm ar 24 Ionawr 2018.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Oni bai fod tri Aelod yn dymuno imi ganu'r gloch, rwyf i'n symud i'r bleidlais, a'r bleidlais honno ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar y cynllun gweithredu ar yr economi. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1. Caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol os derbynnir gwelliant 1. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pump, un yn ymatal, 43 yn erbyn, ac felly gwrthodwyd y gwelliant.
Y gwelliant nesaf yw gwelliant 2. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Julie James. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 22 yn erbyn, ac felly derbyniwyd gwelliant 2.
Ac felly galwaf am bleidlais ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM6631 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr heriau y bydd economi Cymru’n eu hwynebu dros y ddegawd nesaf gan gynnwys cynhyrchiant, awtomeiddio a datgarboneiddio.
2. Yn nodi’r Cynllun Gweithredu ar yr Economi a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r uchelgais i sbarduno twf cynhwysol ar draws Cymru drwy sicrhau bod y llywodraeth gyfan yn rhoi sylw i ddatblygu economaidd.
3. Yn nodi’r cynnig i ddatblygu contract economaidd newydd a sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus yn ysgogi diben cymdeithasol drwy sicrhau bod mwy o waith teg ar gael, lleihau allyriadau carbon a chefnogi amgylchedd cystadleuol ar gyfer busnesau Cymru.
4. Yn nodi’r meysydd gweithredu a gynhwysir yn y cynllun sydd wedi’u creu i ysgogi syniadau newydd a phartneriaethau newydd rhwng diwydiant, y llywodraeth, addysg, undebau llafur a phartneriaid a all sbarduno twf economaidd cynhwysol.
5. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod strategaeth ddiwydiannol y DU yn cefnogi buddsoddiad ar draws pob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. Dau ddeg wyth o blaid, chwech yn ymatal, 15 yn erbyn, ac felly derbyniwyd y cynnig wedi'i ddiwygio.