Part of the debate – Senedd Cymru am 6:56 pm ar 24 Ionawr 2018.
Wrth ddadlau bod diffyg cydraddoldeb yng Nghymru heddiw, fe drown at ddiffyg cydraddoldeb mewn bywyd cyhoeddus. Dau ddeg wyth y cant o gynghorwyr Cymru sydd yn fenywod. Yr un ffigur, 28 y cant, o Aelodau Seneddol Cymru sydd yn fenywod. Ac yma yn y Cynulliad, 42 y cant ohonom ni sydd yn fenywod—lle roedd cyfartaledd yn ôl yn 2003, a lle roedd y Cynulliad yn arloesi yn y byd. Ac yn anffodus, mae fy mhlaid i wedi cyfrannu at y cwymp yma, ond rwy'n falch ein bod ni wedi cytuno polisi newydd yn ein cynhadledd ni ym mis Hydref a fydd yn creu mecanweithiau newydd er mwyn cael nifer cyfartal o ymgeiswyr etholiadol.
Mae ymchwil yn dangos bod merched yn y Cynulliad yn codi pynciau fel gofal plant, trais yn erbyn merched, bwlch cyflog a thâl cyfartal, a diffyg cydraddoldeb yn gyffredinol. Ac mae merched yn gwneud hynny lawer mwy nag mae dynion yn gwneud. Er mwyn tegwch cwbl naturiol, ond hefyd er mwyn tynnu'r rhwystrau sy'n wynebu merched yn gyffredinol, mae'n rhaid inni gael cynrychiolaeth 50:50, hanner a hanner, ymhlith y rhai sydd yn gwneud y penderfyniadau yma yng Nghymru. A dyna pam rwy'n cytuno yn llwyr efo cynigion diweddar y panel arbenigol ar ddiwygio'r Cynulliad, sy'n argymell, wrth gwrs, ei gwneud hi'n ofynnol drwy Ddeddf i bleidiau gwleidyddol ddewis ymgeiswyr ar sail gyfartal o ran rhywedd.
Mae sut fecanwaith yn union sydd ei angen i gyrraedd yno yn fater i ni hoelio sylw arno dros y misoedd ac efallai'r blynyddoedd nesaf yma. Wrth ddechrau yma wrth ein traed yma yn y Cynulliad, mae yna gyfle inni wneud gwahaniaeth. Mi fyddai cael mwy o ferched yn fan hyn yn arwain at well polisïau i greu cydraddoldeb yng Nghymru. Mi fyddai hefyd yn dangos yr arweiniad angenrheidiol ar gyfer creu cydraddoldeb ar draws ein gwlad. Mae tystiolaeth ar draws y byd yn dangos bod cwotâu a deddfwriaeth rhywedd yn gwneud gwahaniaeth, ond mae o'n gorfod bod law yn llaw â newid diwylliannol anferth hefyd, a dyna pam fod cynnwys addysg gynhwysfawr ar berthnasoedd iach yn y cwricwlwm newydd yn hanfodol.
Fy mwriad i wrth ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw ydy rhoi ffocws unwaith eto ar ddiffyg cydraddoldeb, ond gan gynnig sut medrwn ni yn y Cynulliad gyfrannu at y gwaith o ddileu anghydraddoldeb, ac yn y lle cyntaf drwy gyflwyno cwota 50:50 drwy Ddeddf, a pheidio dibynnu ar y pleidiau yn unig i arwain y ffordd. Ers 1918, mae nifer o gamau wedi cael eu cymryd tuag at gydraddoldeb, gan gynnwys gwaith y syffrajéts, ac mae llawer iawn o waith ar ôl i'w wneud. Nid oes yna ddigon o bwyslais ar y gwaith yma, a dim digon o synnwyr o frys. Mae nifer ohonom ni yn y Cynulliad wedi bod yn brwydro dros gydraddoldeb i fenywod ers blynyddoedd maith—llawer yn rhy hir, efallai—ond rŵan ydy'r amser. Mae angen i ferched Cymru gymryd yr awenau. Mae merched wedi gwneud hynny yn y gorffennol. Mae'n bryd i ni fynnu cydraddoldeb ac mae'n bryd i ni, yma, ddangos yr arweiniad sydd ei angen. Dyma ydy'n cyfle ni, mae'n rhaid i ni ei gymryd o.
Rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau yr Aelodau Cynulliad eraill ac, yn fwy na hynny, efallai, rwy'n edrych ymlaen at drafod efo'n gilydd sut yr ydym ni yn mynd i symud hyn ymlaen dros yr wythnosau nesaf. Diolch yn fawr.