10. Dadl Fer: Canrif ers i fenywod gael yr hawl i bleidleisio, ond ydy Cymru heddiw yn gydradd?

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:51 pm ar 24 Ionawr 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:51, 24 Ionawr 2018

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i ddod â'r ddadl yma gerbron heddiw. Mi fyddaf i yn gwahodd Jane Hutt, Joyce Watson, Suzy Davies a Julie Morgan i gymryd rhan hefyd. Diolch iddyn nhw rhag blaen am eu cyfraniadau. 

Canrif ers i ferched gael y bleidlais, a ydy Cymru yn wlad gydradd? Mi fyddaf i yn cyflwyno tystiolaeth i ddangos bod Cymru ymhell, bell o fod yn gydradd o ran rhywedd. Mi fyddaf i yn dadlau bod angen rhoi blaenoriaeth i'r ymdrechion i gyrraedd at gyfartaledd, ac mi fyddaf i hefyd yn cynnig un ffordd ymarferol ynglŷn â sut y gall ein Senedd ni yng Nghymru arwain y ffordd.

Yn 1918, fe gafodd merched y bleidlais am y tro cyntaf, ond cofiwch chi, dim ond merched dros 30 a oedd efo ychydig bach o dir. Serch hynny, roedd pob dyn yn 1918 dros 21 oed yn cael pleidleisio. Anodd credu pam y byddai unrhyw un eisiau un set o reolau i ddynion a set arall i ferched, gan fychanu hanner y boblogaeth. Felly, wrth gofio'r canmlwyddiant, mae'n werth nodi nad oedd cydraddoldeb o ran pleidleisio tan 1928, mewn gwirionedd.

Wrth ddathlu gwaith y syffrajéts, mae'n amlwg ein bod ni bell, bell o fod yn wlad gydradd o ran rhywedd. Nid oes ond angen edrych ar y bwlch cyflogau rhwng dynion a menywod, yr ystadegau ynglŷn â thrais a chamdriniaeth ddomestig yn erbyn menywod, y diwylliant o aflonyddu rhywiol, a'r ganran fechan o ferched sydd mewn swyddi uchel yn y byd cyhoeddus. Fe wnawn ni ddechrau drwy edrych ar y bwlch cyflog.

Mae'r bwlch cyflog rhwng dynion a merched yng Nghymru tua 15 y cant, yn codi i 25 y cant mewn rhannau o'r wlad. Mae nodi cyfartaledd cyflogau dynion a merched yn dangos yr anghydbwysedd rhwng y swyddi mae dynion yn eu gwneud, gan amlaf ar dop y pyramid, a'r swyddi mae'r merched yn eu gwneud, sy'n tueddu i fod yn is i lawr y pyramid cyflogau. Un cam sylweddol ymlaen ydy bod rhaid i gyflogwyr mawr yn y sector preifat a gwirfoddol gyhoeddi gwybodaeth am gyflogau ar sail rhywedd. Dim ond 6 y cant o gyflogwyr sydd wedi cyhoeddi eu manylion hyd yma, ac erbyn y dyddiad cau yn Ebrill, efallai y cawn ni ddarlun gwell. Ond eisoes, mae cwmnïau fel y BBC, EasyJet a Virgin wedi dangos bod bylchau mawr yn bodoli, a dyna i chi un arwydd ein bod ni'n bell o gyrraedd cydraddoldeb. 

Fe drown ni at drais yn erbyn merched a chamdriniaeth yn y cartref. Yn ôl y ffigurau swyddogol, mae un o bob pedair merch yng Nghymru a Lloegr—27 y cant—yn dioddef o gamdriniaeth ddomestig yn ystod eu hoes—ffigur sydd dros ddwywaith cymaint ag ydyw i ddynion—13 y cant—ac mae'r ffigur yn cynrychioli tua 350,000 o ferched yng Nghymru. 

Mae astudiaeth gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn dangos bod 68 y cant o ferched ar gampws coleg neu brifysgol wedi profi aflonyddu rhywiol, ac un o bob saith wedi dioddef ymosodiad rhywiol treisgar. Mae'r continwwm o drais ac aflonyddu merched yn ymwneud â phatrymau ehangach diwylliannol o anghydraddoldeb rhywedd, ac yn ganolog i'r cyfan mae cynnal ac atgynhyrchu perthynas o bŵer anghyfartal. Mae datrys y broblem yn gorfod cynnwys datrysiad diwylliannol cymdeithasol ehangach. Mae'r sylw diweddar i aflonyddu rhywiol yn sgil sgandal Weinstein wedi agor y llifddorau, gyda merched o'r diwedd yn dechrau trafod eu profiadau yn gyhoeddus. Mae fy nghenhedlaeth i wedi bod yn euog o ysgubo rhai mathau o aflonyddu o dan y carped. Rydym angen sgwrs genedlaethol amdano ar frys er mwyn egluro beth ydy aflonyddu a pham nad ydy o'n dderbyniol.